Wedi ffansio bod mewn opera erioed?
Hoffech chi’r cyfle i ganu ochr yn ochr â chantorion proffesiynol?
I gael gwybodaeth fanylach ac i gofrestru, cysylltwch ag admin@midwalesopera.co.uk neu llenwch y ffurflen ymholiad isod.
Rydym yn chwilio am gantorion brwdfrydig i ymuno â’r cwmni i ganu Corws y Ffoaduriaid yn Act 4. Nid oes angen unrhyw brofiad o actio. Gall y rhai sy’n cymryd rhan ganu mewn un perfformiad neu ymuno â ni ar gyfer sawl sioe ar y daith. Dyma holl ddyddiadau’r perfformiadau.
Mae dau ddyddiad ymarfer allweddol sy’n hanfodol i unrhyw un sydd am ganu yn y perfformiad cyntaf. Ar gyfer yr ail berfformiad a’r rhai dilynol bydd ymarferion byr ar brynhawn pob perfformiad, lle gall unrhyw un ymuno am y tro cyntaf, hyd yn oed os nad ydynt wedi mynychu ymarferion neu berfformiadau blaenorol.
Dydd Sul 25 Chwefror, 2.00pm – 5.00pm, Theatr Hafren, y Drenewydd.
Ar y diwrnod hwn bydd yr holl gantorion yn gweithio ar y gerddoriaeth a llwyfannu’r olygfa gyda Chyfarwyddwr Cerdd OCC Jonathan Lyness a Chyfarwyddwr Artistig OCC Richard Studer, yng nghwmni’r pianydd Aeron Preston. Bydd hwn yn brynhawn llawn hwyl lle bydd yr olygfa’n cael ei chreu am y tro cyntaf ar y llwyfan. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu canu yn y perfformiad cyntaf, rydym yn eich annog i ddod draw i ymuno yn y diwrnod hwn os gallwch chi, mae’n agored i unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y corws.
Dydd Gwener 1 Mawrth, 12.00pm – 6.00pm, Theatr Hafren, y Drenewydd.
Bydd y diwrnod hwn yn cynnwys ymarfer cwmni llawn byr gyda’r holl gast a’r gerddorfa, ac yna gwisgoedd, egwyl cinio ac yna Ymarfer Gwisgoedd yr opera am 3.00pm.
Ni fydd ymarfer ar ddiwrnod y perfformiad cyntaf, dydd Sadwrn 2 Mawrth. Ar gyfer yr ail berfformiad (7 Mawrth) a’r holl berfformiadau dilynol, mae angen i bawb sy’n cymryd rhan fod ar gael o 4.30pm ar ddiwrnod y sioe ar gyfer ymarfer byr a ffitio gwisgoedd.
I gael gwybodaeth fanylach ac i gofrestru, cysylltwch ag admin@midwalesopera.co.uk neu llenwch y ffurflen ymholiad isod.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…