Mae’n ddrwg iawn gennym ni orfod cyhoeddi bod ein taith bresennol o The Marriage of Figaro wedi ei chanslo o ganlyniad i gau’r theatrau yn ystod yr epidemig presennol o COVID-19.
Hugh Canning, The Sunday Times
“Jonathan Lyness maintained a lively momentum in the pit with his tiny orchestra, single strings allowing the glorious woodwind writing to blossom, underpinning Studer’s basically traditional but always lively staging… [of] this rather lovable Figaro”
Steph Power, The Stage
“Cannily witty, big-hearted production of Mozart’s opera”
Cyflwynir ymdriniaeth ffres o orchestwaith oesol Mozart gan Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith gwanwyn 2020. Gyda chyfieithiad Saesneg Amanda Holden sy’n llawn ‘digrifwch diymatal’ a threfniant cerddorfaol ein Cyfarwyddwr Cerdd ein hunain o sgôr aruchel Mozart, bydd ein cynhyrchiad newydd sbon yn cael ei deilwra yng Nghymru, gyda thalent ifanc o Academi Llais Ryngwladol Cymru yn ymuno â pherfformwyr rhyngwladol ar y llwyfan.
Ymunwch â Figaro a Susanna ar feri-go-rownd eu priodas, wrth i weision dwyllo eu meistri, y marched dwyllo’u dynion ac wrth i gariad drechu er gwaethaf pob disgwyl.
Figaro: Harry Thatcher
Susanna: Galina Averina
Countess: Jana Holesworth
Count: Benjamin Bevan
Cherubino: Olivia Gomez
Marcellina: Kate Valentine
Bartolo: Ian Beadle
Basilio/Curzio: David Horton
Antonio: Mark Saberton
Barbarina: Stephanie Smith
Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cynllunydd Goleuo: Dan Saggars
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…