David Truslove, Opera Today
“If you’re not familiar with Montsalvatge, there’s no need to worry, for his wonderfully communicative and comic score (not unlike a panto) is packed with engaging tunes”
Mae’r dyddiadau hyn i gyd yn y gorffennol.
Pumed daith LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru sy’n tanio ein tymor o straeon tylwyth teg, gyda fersiwn un act o hanes cyfarwydd ‘Pws Esgid Uchel’, El Gato con botas, wedi ei saernïo’n grefftus i un act gan y cyfansoddwr Catalan, Montsalvatge.
Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1948 ac anaml y caiff ei pherfformio heddiw. Mae’r stori oesol hon i blant yn adrodd hanes cath ddawnus sydd, yn gyfnewid am het a chleddyf a phâr o esgidiau uchel, yn llwyddo i sicrhau bod ei feistr ifanc (mab i felinydd) yn ennill teyrnas, llaw tywysoges mewn priodas a chastell gan ellyll ar hyd y ffordd.
O’r cychwyn cyntaf mae cerddoriaeth Montsalvatge yn llawn egni, yn soniarus, gyda rhythm gafaelgar, alawon cyfoethog ac effeithiau cerddorol cathaidd! Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys 5 o gantorion, sy’n canu yn Saesneg, a 5 offerynnwr sy’n chwarae trefniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Bydd yr ail hanner yn gyflwyniad steil cabare o eitemau poblogaidd a difyr gan y perfformwyr i gyd.
Cenir yn Saesneg
Cerddoriaeth: Xavier Montsalvatge
Trefniant y Siambr: Jonathan Lyness
Libretto: Néstor Luján
Cyfieithiad Saesneg: Richard Studer
Perfformir trwy drefniant gyda Faber Music Ltd, Llundain ar ran Peermusic Classical.
Opera: 60 munud
EGWYL
Adloniant ail hanner: 35 munud
Cath: Martha Jones
Melinydd: Huw Ynyr
Brenin: Philip Smith
Tywysoges: Alys Mererid Roberts
Cawr: Trevor Eliot Bowes
Ffidil: Elenid Owen
Basŵn: Alanna Pennar-Macfarlane
Trwmped: Jac Thomas
Taro: James Harrison
Piano: Jonathan Lyness
–
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwydwr Cerdd: Jonathan Lyness
PrifLwyfannau 2023
Hansel a Gretel
Cenir y cynhyrchiad newydd hwn yn Saesneg gyda chast o gantorion ifanc proffesiynol, a bydd corws o blant lleol i’r theatr yn ymuno ym mhob lleoliad.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…