Rian Evans, The Guardian
⭐️⭐️⭐️⭐️
“Leoncavallo’s short opera has been downscaled for a chamber orchestra and given a simple but effective staging, rounded off with some surprise razzle dazzle”
Noson gyntaf: Gwener 25 Hydref Ystafelloedd Cynull Llwydlo
Perfformiad olaf: Gwener 22 Tachwedd 2024, Hafren Y Drenewydd
Mae Opera Canolbarth Cymru yn ôl ar daith yn yr hydref eleni gydag opera ias a chyffro enwog Leoncavallo ‘Pagliacci’, neu ‘Clowns ‘. Mae Canio, arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi, yn darganfod bod ei wraig Nedda yn cael perthynas. Ond cyn darganfod pa ddyn, rhaid iddo fynd ar y llwyfan a chwarae rhan… gŵr anobeithiol y mae ei wraig yn twyllo arno. Daw’r perfformiad i ben gyda’r realiti’n cael ei gymylu’n frawychus nes bod y llinell rhwng y perfformiad llwyfan a bywyd go iawn yn aneglur ac yn dychryn y gynulleidfa sy’n gwylio. Mae Pagliacci, sy’n llawn cerddoriaeth syfrdanol, yn dal gafael yn ei statws cwlt fel y ‘ddrama-o-fewn-drama‘ operatig eithaf.
Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys cast o 5 canwr a 5 cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Richard Studer, a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Fel gyda LlwyfannauLlai, bydd yr opera yn digwydd yn hanner cyntaf y noson yn unig. Bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr sy’n cynnwys yr holl gantorion a’r cerddorion i’r gynulleidfa gael noson i’w chofio.
Hyd:
Hanner cyntaf 65 munud
Ail hanner 35 munud
Cerddoriaeth a Libretto Ruggero Leoncavallo
Cyfieithiad Saesneg Richard Studer
Trefniant Siambr Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness
Canio: Robyn Lyn Evans
Nedda: Elin Pritchard
Tonio: Philip Smith
Peppe: Sam Marston
Silvio: Johnny Herford
Feiolin: Elenid Owen
Sielo: Nicola Pearce
Clarinét: Peryn Clement-Evans
Telyn: Elfair Grug
Piano: Jonathan Lyness
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…