Cerddoriaeth fyw a phicnic yng ngerddi godidog Neuadd Gregynog… oes ffordd well o dreulio noson o haf?
Ddydd Sul 24 Gorffennaf bydd gerddi rhestredig Gradd 1 ysblennydd Neuadd Gregynog ger y Drenewydd yn lleoliad hafaidd perffaith ar gyfer Gala flynyddol OCC.
Tocynnau
Pris tocynnau yw £16 (£5 o dan 16) a rhaid eu harchebu ymlaen llaw ar: www.thehafren.co.uk neu drwy Swyddfa Docynnau Hafren ar on 01686 948100.
Bydd yn dechrau am 5pm ac yn gorffen yn gynnar gyda’r nos, i roi digon o amser i fwynhau’r gerddi a phicnic yn ystod yr egwyl.
Bydd Cyngerdd Gardd Gregynog OCC yn digwydd o flaen y Neuadd gyda lle i eistedd ar y llwybrau a’r lawntiau o flaen y tŷ – anogir y gynulleidfa i ddod â chadair neu blanced.
Mae lluniaeth ysgafn, bwyd picnic a llety ar gael i’w harchebu’n uniongyrchol gan Neuadd Gregynog: www.gregynog.org / 01686 650 224. Mae croeso hefyd i chi ddod a’ch lluniaeth eich hun.
Ac os yw’r tywydd Cymreig yn ein siomi? Yna bydd yr Ystafell Gerdd yn darparu’r lleoliad ar gyfer ein gala.
Gwnewch benwythnos ohoni! Nifer cyfyngedig o lety sydd ar gael yn Neuadd Gregynog – cysylltwch â nhw yn uniongyrchol i wneud ymholiadau: www.gregynog.org / 01686 650 224.
Daw’r fezzo-soprano Stephanie-Windsor Lewis yn ôl i OCC ar ôl taith LlwyfannauLlai o Il Tabarro Puccini yn hydref 2021.
Ar 33ain mlynedd Opera Canolbarth Cymru, mae cefnogi cantorion ifanc yn dal wrth wraidd ein gwaith fel cwmni, gydag ymrwymiad i gastio cantorion o dan 30 neu sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant o fewn y pedair blynedd ddiwethaf. O Ogledd Cymru y daw’r bariton John Ieuan Jones, a raddiodd o’r Royal Northern College of Music yn 2019, a’r soprano Alys Mererid Roberts a chwaraeodd ran Polly yng nghynhyrchiad OCC yn 2019 o Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage.
Gala flynyddol OCC yn Neuadd Gregynog yw uchafbwynt eu haf a lansiad eu tymor, gyda hanes hir o berfformiadau yn yr Ystafell Gerddoriaeth. Yn haf 2021 gwelwyd y digwyddiad yn symud i’r ardd, fel bod modd cadw pellter cymdeithasol ac elwa o’r naws yn yr awyr agored. Roedd y profiad yn yr awyr iach yn un mor ddifyr i’r gynulleidfa nes penderfynwyd cynnal opera fyw yng ngerddi 750 acer ystâd hanesyddol Gregynog eto eleni.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…