Cyfuna Eugene Onegin hanes nerthol a thorcalonnus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky mewn ymchwiliad syfrdanol o gariad, marwolaeth, bywyd a chonfensiwn.
Perfformiadau yn y gorffennol
Mae’r hanes ingol, sy’n llawn ariâu rhyfeddol gan gynnwys golygfa wych Tatyana am y llythyr, gorchest repertoire y soprano, yn cyferbynnu symlrwydd bywyd cefn gwlad â gormodedd soffistigedig llys cyn-chwyldroadol Rwsia ac yn dweud hanes y cariad tynghedlon rhwng Tatyana ddiniwed a’r sinig lluddedig Onegin.
Mae’r cast gwych yn cynnwys sêr newydd a pherfformwyr rhyngwladol cydnabyddedig. Arweinir y perfformiad gan Gyfarwyddwyr Artistig OCC, Richard Studer a Jonathan Lyness, i gyfeiliant Ensemble Cymru. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu swyno a’u cyffroi i’w craidd.
Onegin: George von Bergen
Tatyana: Elizabeth Karani
Lensky: Robyn Lyn Evans
Olga: Ailsa Mainwaring
Madam Larina: Stephanie Windsor-Lewis
Gremin: Sion Goronwy
Filipyevna: Maria Jagusz
M. Triquet: Jonathan Cooke
Y Capten: Matthew Buswell
Zaretsky: Nicholas Morton
Chorus: Felicity Buckland; Chanáe Curtis; Joseph Doody;Jana Holesworth
—
Hyd perfformiad: Tair awr gyda dwy egwyl
Cerddoriaeth gan: Tchaikovsky
Libreto: Tchaikovsky, ar ôl Pushkin
Cyfieithiad: David Lloyd Jones
Cenir yn: Saesneg
Arweinydd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cynllunydd Goleuo: Dan Saggars
Ymddiriedodd Tchaikovsky mewn myfyrwyr o ysgol gerddoriaeth Moscow i berfformio ei waith am y tro cyntaf. Nawr, 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Opera Canolbarth Cymru’n perfformio’r opera neilltuol hon am y tro cyntaf.
Dan arweiniad cyfarwyddwyr artistig newydd y cwmni, Richard Studer a Jonathan Lyness, bydd cyfuniad o artistiaid profiadol ac artistiaid ifanc yn cyflwyno’r archwiliad hwn o fywyd, marwolaeth, cariad a chonfensiwn.
Dylai hanes nerthol a thorcalonnus Pushkin, telynegiaeth ysgubol Tchaikovsky, cynlluniau hardd Richard Studer, offerynwyr siambr profiadol a sefydledig Ensemble Cymru gan gynnwys y delyn oedd mor bwysig i Tchaikovsky, a chast ardderchog sy’n cynnwys cyfoeth o sêr newydd, sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt yn cael eu swyno i’w craidd a’u gwefreiddio. Mae’r cynhyrchiad hwn o Eugene Onegin yn ddigwyddiad sylweddol yn hanes hyglod OCC ac allwch chi ddim ei golli!
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…