Wyn Pencarreg

Bywgraffiad

Astudiodd y bariton bas o Gymru, Wyn Pencarreg, yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd gan ennill llawer o wobrau ac ysgoloriaethau gan gynnwys gwobrau gan Ymddiriedolaeth Iarlles Munster, Sefydliad Peter Moores a Sefydliad Wolfson. Dyfarnwyd Gwobr Goffa Erich Vietheer o Glyndebourne iddo hefyd. Ymhlith ei uchafbwyntiau diweddar mae Alcindoro La bohème, Padre Sansón The Exterminating Angel a Dirprwy Ffleminaidd Don Carlos (Yr Opera Brenhinol); a Le Sire de Béthune Les vêpres siciliennes, Barone Dauphol La traviata, Sir Gualtiero Raleigh Roberto Devereux ac Alcade La forza del destino (Opera Cenedlaethol Cymru). Ymhlith ei rannau blaenorol ar gyfer Opera Canolbarth Cymru mae Leporello Don Giovanni, Ford Falstaff, Count Almaviva The Marriage of Figaro a’r Pedwar Dihiryn yn The Tales of Hoffmann.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!