Will Diggle

tenor

Bywgraffiad

Graddiodd y tenor Prydeinig Will Diggle fel bariton o’r Royal Academy of Music (BMus, Gradd Dosbarth Cyntaf) a’r Royal College of Music (MPerf). Ers hynny, mae wedi trosglwyddo i fod yn denor ac yn astudio gyda John Evans. Yn fwyaf diweddar bu’n Aeneas wrth gefn yn Dido and Aeneas yn Grange Festival. Mae ei ymrwymiadau nodedig yn cynnwys Germano La Scala di Seta (Teatro Signorelli, Yr Eidal), Dulcamara wrth gefn L’elisir d’amore (New Generation Festival Florence), Long John Silver The Hive (Hoxton Hall) ac aelod triawd yn Trouble yn Tahiti Bernstein (RCM). Mae wedi canu mewn cyngherddau ym Mhalas Tsaritsyno, Moscow, ac mae wedi perfformio yn Nhŷ Opera Sydney gydag Opera Australia yn Don Giovanni, AidaLa traviata a Lohengrin.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!