Astudiodd Steffan Lloyd Owen yn y Royal Northern College of Music and Drama ym Manceinion, lle cafodd ei ddysgu gan Nicholas Powell. Mae ei wobrau’n cynnwys Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts 2018, Gwobr Goffa Osborne Roberts – y Rhuban Glas 2016 a Bwrsariaeth Cymdeithas Kathleen Ferrier i Ganwyr Ifanc 2015. Mae ei rannau’n cynnwys Sciarrone/Jailer Tosca (Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen), Brundibar Brundibar (Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru), Lord Hate-Good Pilgrim’s Progress, Ser Amantio Di Nicolao Gianni Schicchi a George Jones Street Scene (RNCM) Zaretsky Eugene Onegin, El Dancairo Carmen a’r Brenin Cyfrinach y Brenin (Opra Cymru). Mae uchafbwyntiau cyngherddau diweddar yn cynnwys Requiem Mozart (L’Orchestre National de Bretagne). Tymor nesaf, bydd Steffan yn ymuno â Stiwdio Opera Rhyngwladol yn Opera Zurich.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…