Graddiodd Siân, sy’n soprano o Ogledd Cymru, o Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol Birmingham (RBC) yn 2022, lle enilliodd ei graddau israddedig ac ôl-raddedig dan ddysgeidiaeth Amanda Roocroft. Ers graddio, mae Siân wedi perfformio Pepík/Corws yn The Cunning Little Vixen, Hampstead Garden Opera, La Statue yn Pigmalion yn Le Théâtre Basse Passière, Ffrainc, ac mae hi wedi canu Morwyn Briodas/Corws yn Le Nozze di Figaro a Chorws yn Sweeney Todd i West Green House Opera. Perfformiodd Siân nifer o rolau yn RBC hefyd, gan gynnwys Winnie Banished, rhan y teitl yn Coraline, Maria Bertram Mansfield Park, ac Ail Fachgen The Magic Flute. Y llynedd cafodd Siân bleser yn perfformio Tylwythen Deg y Gwlith/Huwcyn Cwsg a Gretel wrth gefn yn nhaith OCC o Hansel and Gretel ac mae hi wrth ei bodd yn dod yn ôl at Opera Canolbarth Cymru unwaith eto ar gyfer Macbeth!
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…