Yn fwyaf diweddar bu Sam Marston yn Tom Rakewell wrth gefn yn The Rake’s Progress (Grange Festival), a chyd-enillodd Gwobr y Grange Festival, a pherfformiodd Frederic The Pirates of Penzance a Nanki-Poo The Mikado (National G & S Opera Company yn Nhŷ Opera Buxton). Mae ei waith blaenorol wedi cynnwys rhan Henrik Egerman A Little Night Music (Opera North) a phrosiect Lost & Found y Tŷ Opera Brenhinol, perfformio opera dros dro oedd newydd ei chomisiynu fel rhan o Ŵyl Europalia. Cwblhaodd Sam y cwrs MMus Opera yn Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol yr Alban, lle perfformiodd Dr. Oliver Sacks yn The Man Who Mistook His Wife for a Hat Nyman, Hérisson yn L’étoile Chabrier a’r Dyn Ifanc yn A Feast in Time of Plague Cui.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…