Robyn Lyn Evans

tenor

Bywgraffiad

Daw’r tenor Robyn Lyn Evans yn wreiddiol o Bont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ond mae bellach yn byw ym Machynlleth. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin lle dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Stuart Burrows ac o’r Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain.

Dechreuodd ganu tra’n ifanc yn eisteddfodau Cymru ac ymysg ei lwyddiannau mae Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts, Rhuban Glas Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a Gwobr Goffa David Ellis.

Mae ei rôles operatig yn cynnwys Rodolfo (La Bohème), Cavaradossi (Tosca), Don José (Carmen), Alfredo (La Traviata), Il Duca (Rigoletto), Macduff (Macbeth), Lensky (Eugene Onegin), Ismaele (Nabucco), Don Ottavio (Don Giovanni), Pinkerton (Madam Butterfly), Rinuccio (Gianni Schicchi), Fenton (Falstaff) a Nemorino (L’elisir d’amore) i gwmnïau cenedlaethol a theithiol Prydain.

Fe’i clywir yn aml mewn cyngherddau ac mae wedi rhyddhau dwy record ar ei ben ei hun: ROBYN LYN…tenor a Robyn Lyn Evans Tenor Ah! mes amis.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!