Richard Studer

Cyfarwyddwr/Cynllunydd

Bywgraffiad

Cyfarwyddodd Richard ei opera broffesiynol gyntaf yn 1994 yn The Bristol Old Vic. Mae ei repertoire yn amrywio o Monteverdi i Philip Glass mewn gwyliau a theatrau ym mhob rhan o’r DU, gan gynnwys Longborough Festival Opera lle mae wedi cyfarwyddo Britten a Janáček. Ef yw cyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr Artistig Opera Project. Mae Opera Project wedi bod yn gweithio ar y cyd, ers amser maith, gyda theatrau enwog y Tobacco Factory ym Mryste, sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae Richard yr un mor gartrefol yn gweithio ym myd theatr gerdd, ac mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Candide Bernstein i opera West Green House. Richard yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru. Cynyrchiadau i OCC: The Magic Flute, Eugene Onegin, The Bear, L’heure espagnole a Tosca.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!