Mae’r soprano Gymraeg Mari Wyn Williams yn un o Raddedigion Academi Llais Rhyngwladol Cymru lle bu’n astudio gyda Dennis O’Neill. Cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Wagner Llundain a chystadleuaeth Elizabeth Connell ar gyfer Sopranos Dramatig yn Sydney, Awstralia.
Mae ei rhannau’n cynnwys Ellen Orford Peter Grimes (Cerddorfa Symffoni Kensington a’r Epiphoni Consort), Woglinde Das Rheingold (Longborough Festival Opera), Fiordiligi Così fan tutte (Opera Dinas Abertawe), Musetta La bohème (OCC), rhan y teitl Tosca (Opera Project), Helmwige Die Walküre (Grange Park Opera), ac Ortlinde a Brünnhilde wrth gefn The Valkyrie (cyd-gynhyrchiad ENO gyda’r Met, Efrog Newydd, wedi’i gyfarwyddo gan Richard Jones a’i arwain gan Martyn Brabbins ac Anthony Negus).
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…