Cafodd Kiefer Jones hyfforddiant clasurol ym Mhrifysgol Bangor gyda Marian Bryfdir. Ers graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth Cyntaf mewn cerddoriaeth, mae Kiefer yn gweithio fel canwr/athro llais llawrydd, yn darlithio ar berfformio yng Ngholeg Menai yng Ngogledd Cymru. Ym mis Medi 2017, dechreuodd Kiefer astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd o dan y bariton, Donald Maxwell. Mynychodd Kiefer gwrs academi clodfawr Glyndebourne yn 2017.
Yn 2018, perfformiodd Kiefer ei ran broffesiynol gyntaf gydag Opra Cymru, (Dr. Malatesta yn Don Pasquale Donizetti). Wedi hyn cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Gus Christie gan Glyndebourne. Bydd Kiefer yn canu Aeneas i Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…