Ganed Jonathan yn Llundain, a bu’n darllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste ac yn ddiweddarach astudiodd arwain gyda George Hurst. Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, Cerddorfa Ludlow ac Opera Project a gyd-sefydlodd ym 1993. Mae wedi bod yn arwain i Ŵyl Opera Longborough a West Green House Opera am flynyddoedd lawer. I Opera Canolbarth Cymru The Magic Flute, Semele, Eugene Onegin, Tosca, Dido and Aeneas, La bohème, The Marriage of Figaro, Macbeth a Hansel a Gretel. Caiff ei amryfal drefniannau cerddorfaol gostyngedig o operâu eu perfformio’n helaeth ledled y byd. Mae ei drefniant o The Bear Walton wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen (ac fe’i ffilmiwyd yn ddiweddar gan Opera Holland Park) ac mae ei drefniant o El Gato con botas Montsalvatge wedi’i gyhoeddi gan Peermusic Classical, Efrog Newydd.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…