Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr Cerdd

Bywgraffiad

Astudiodd Jonathan gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste, gan ennill ysgoloriaeth gelf israddedig y Brifysgol ac ysgoloriaeth uwchraddedig yr Academi Brydeinig. Astudiodd arweinyddiaeth yn ddiweddarach gyda George Hurst. Mae’n Artist Cyswllt gyda Longborough Festival Opera lle mae ei repertoire wedi cynnwys cylch Janáček a gafodd ganmoliaeth feirniadol: Jenůfa, Katya Kabanová a The Cunning Little Vixen. Mae Jonathan wedi bod yn arweinydd rheolaidd i Opera West Green House ers 2000, ac yn fwyaf diweddar Ariadne auf Naxos, Candide a La Rondine. Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd Prosiect Opera, a gyd-sefydlodd yn 1993, ac yn Gyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, gan arwain Eugene Onegin, The Magic Flute, The Marriage of Figaro, Tosca, Semele a Dido ac Aeneas. Perfformir ei fersiynau offeryniaeth ostyngedig o nifer o operâu yn helaeth dros y byd a chafodd ei drefniant o The Bear Walton, a gyhoeddwyd gan OUP, a’i ffilmio’n ddiweddar gan Opera Holland Park.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!