Ganed Jean-Kristof Bouton yng Nghanada ac mae’n byw yn Llundain erbyn hyn. Treuliodd flynyddoedd lawer fel unawdydd gyda’r National Opera Lasi, Rwmania, lle roedd ei rannau’n cynnwys Silvio Pagliacci, Alfio Cavalleria Rusticana, Marcello La bohème, Belcore L’Elisir d’Amore, Figaro Il Barbiere di Siviglia a’r prif ran yn Don Giovanni. Mae bellach yn ymddangos yn rheolaidd ar draws Ewrop mewn rhannau sydd wedi cynnwys Escamillo Carmen (Nice, Paris, Seville), Moussol Si j’etais roi, Monterone Rigoletto a Mercutio Roméo et Juliette (i gyd yn Toulon). Yn y Deyrnas Unedig mae wedi canu Alvaro Il viaggio a Reims (ETO), Charlie Three Decembers, Scarpia Tosca a Belcore L’elisir d’amore (Diva Opera). Mae ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Raimbaud Le Comte Ory yn Québec.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…