Huw Ynyr

Bywgraffiad

Astudiodd y tenor o Ryd-y-main, Huw Ynyr, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae’n artist cyngerdd poblogaidd, ac yn ddiweddar perfformiodd yr unawd tenor yn Requiem Mozart yn Rennes, gyda Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Genedlaethol Llydaw.

Gwaith diweddar: Hogyn Un Nos Ola Leuad (Channel 4/S4C), Ferrando Così fan tutte (Diva Opera) Tinca Il tabarro a Melinydd El Gato con botas (OCC); Duca Bertrando a Chorws L’inganno felice (Wexford Festival Opera); Offeiriad Cyntaf The Prisoner, Y Tad Grenville wrth gefn Dead Man Walking (Opera Cenedlaethol Cymru); rôl y teitl Albert Herring, Tamino The Magic Flute (CBCDC); Ernesto Don Pasquale, Jaquino Fidelio (Opra Cymru); Artist y Genhedlaeth Ifanc a Thenor Ensemble L’elisir d’amore (Iford Arts).

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!