Fe’i ganed ym Moscow a graddiodd o Academi Celfyddydau’r Theatr Rwsia, cyn astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Cyn cyrraedd Llundain, roedd yn unawdydd yn Opera Perm State yn Dubrovnik ac yng Ngŵyl Opera Les Azuriales yn Nice, lle’r enillodd Wobr Artist Ifanc Haidee Saretski. Mae ei rhannau diweddar wedi cynnwys Marzelline Fidelio i Garsington Opera (darlledwyd ar Radio 3), Magda La Rondine, Oscar Un ballo in maschera ac Adele Die Fledermaus (West Green House Opera), Atalanta Serse, Iphise yn Dardanus Rameau, Ilia Idomeneo, Lauretta Gianni Schicchi, rhan y teitl yn Partenope a Fiordiligi Così fan tutte. I Opera Canolbarth Cymru mae hi wedi canu Susanna The Marriage of Figaro a Pamina The Magic Flute.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…