Daw’r Fezzo-Soprano ifanc, Erin Fflur o’r Felinheli yng Ngogledd Cymru. Ar ôl ennill gradd Baglor a Meistr mewn Astudiaethau Lleisiol ac Opera yn yr RNCM ym Manceinion, mae Erin bellach yn gantores Gymraeg ifanc lewyrchus sydd wedi gweithio gydag Opera Canolbarth Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Wexford Festival Opera a’r National Gilbert & Sullivan Opera Company. Ymhlith ei rolau mae Catrin Wild Cat, Ail Fenyw Specter Knight, Ruth Pirates of Penzance a’r Gyfnither Hebe HMS Pinafore. Mae ei rhannau presennol a’r rhannau sydd ar y gweill yn cynnwys Dorabella Così fan tutte gydag Opra Cymru, Maria Sciortino La Ciociara a La Maestra delle Novizie Suor Angelica gyda Wexford Festival Opera.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…