Wedi’i eni a’i fagu yn Aberdâr, hyfforddodd y bas-bariton o Gymru Emyr Wyn Jones yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r National Studio Opera. Yn 2023 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel Dulcamara L’elisir d’amore (Longborough Festival Opera) ac Aye wrth gefn yn Akhnaten (English National Opera). Ymhlith yr ymrwymiadau eraill mae Scottish Opera, Wexford Festival, Opera North, Grange Park Opera a’r Mediterranean Opera Festival. Mae ei rannau wedi cynnwys Figaro Le Nozze do Figaro, Colline La bohème, Papageno The Magic Flute a Leporello/Masetto Don Giovanni. Yn fwyaf diweddar bu wrth gefn ac yn chwarae rhan Don Basilio The Barber of Seville i Scottish Opera. I Opera Canolbarth Cymru: Talpa Il tabarro, Colline La bohème, SacristanTosca a Cadmus Semele.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…