Emyr Wyn Jones

Bywgraffiad

Astudiodd y bas-bariton o Gymru, Emyr Wyn Jones, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymhlith ei rannau mae Cadmus Semele a Sacristan Tosca (Opera Canolbarth Cymru), Offeiriad Cyntaf / Papageno wrth gefn The Magic Flute a Leporello Don Giovanni (Long Festival Festival Opera), Ffermwr/ Ensemble Simplicius Simplicissimus (Independent Opera), Figaro Le Nozze di Figaro a Bonzo Madama Butterfly (Mediterranean Opera Studio Festival, Sicily) a Colline La bohème (Opera North a Grange Park Opera). Ymhlith y gwobrau a ddyfarnwyd iddo yn ystod ei astudiaethau, roedd Ysgoloriaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Gwobr Leisiol y Fonesig Shirley Bassey, a Sefydliad y Gwobrau Opera. Mae Colline La bohème ar y gweill i OCC.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!