Bas-bariton o Gymru a astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei rannau’n cynnwys Cadmus yn Semele Handel (Opera Canolbarth Cymru), Offeiriad Cyntaf/ Papageno Wrth Gefn The Magic Flute (Longborough Festival Opera), Ffermwr/Ensemble Simplicius Simplicissimus (Independent Opera), a Figaro Le Nozze di Figaro a Bonzo Madama Butterfly yn y Mediterranean Opera Studio Festival, Sicily. Tra’n astudio enillodd wobr Ysgoloriaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru CBCDC, Gwobr Leisiol y Fonesig Shirley Bassey a Sefydliad Gwobrau Opera sy’n parhau i roi cymorth parhaus drwy 2018/19. Ymysg cynlluniau i berfformio mae rhan Leporello mewn cynhyrchiad newydd o Don Giovanni ar gyfer Longborough Festival Opera yn haf 2019.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…