Astudiodd y delynores Gymraeg Elfair Grug Dyer yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion. Mae hi wedi dychwelyd i’r DU yn ddiweddar ar ôl byw yn Bangkok, Gwlad Tai am ddwy flynedd yn gweithio fel athrawes delyn a thelynores breswyl yng nghanolfan delyn Tamnak Prathom. Mae hi wedi mwynhau llawer o lwyddiant mewn Eisteddfodau, ac wedi perfformio ledled y DU, gan gynnwys concerto William Mathias gyda’r New Sinfonia, datganiad yn Neuadd Bridgewater a chyngherddau gyda phedwarawd telynau CLOUDS. Recordiodd ei halbwm gyntaf ei hun gyda Recordiau SAIN yn ddiweddar ac mae hi’n un o Artistiaid Newydd Addawol Cymdeithas Delynau’r Deyrnas Unedig yn 2018.