Astudiodd y soprano Gymraeg, Elen Lloyd Roberts radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham cyn mynd ymlaen i gyflawni MA mewn Perfformio Lleisiol yn y Royal Academy of Music. Mae ei rhannau operatig yn cynnwys Susanna Le nozze di Figaro, Despina Così fan tutte, Zerlina Don Giovanni, Gretel Hänsel und Gretel, Marzelline Fidelio, Galatea Acis and Galatea, a Drusilla L’Incoronazione di Poppea. Yr haf diwethaf, ymunodd Elen ag Utopia Choir dan arweiniad Teodor Currenztis i berfformio C minor mass Mozart a The Indian Queen Purcell yn Salzburger Festspiele.
Cyrhaeddodd Elen rownd derfynol Gwobr Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ac mae wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadlaethau Canwr Ifanc y Flwyddyn MOCSA a Dunraven.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…