Dafydd Allen

tenor

Bywgraffiad

Mae Dafydd wedi trosglwyddo o fod yn Fariton i fod yn Denor yn ddiweddar. Roedd yn Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer Tymor 2022/23. Mae ei rannau i WNO yn cynnwys Stronjek (Technegydd Llwyfan) yn The Makropulos Affair Janacek, Yr Asiant yn y perfformiad cyntaf o Blaze of Glory David Hackbridge Johnson, Capten / Troseddwr yn Candide Bernstein a Boris yn Cheryomuski Shostakovich (Opera Ieuenctid WNO). Ef oedd yr unawdydd yn nhaith cyngerdd Return to Vienna Opera Cenedlaethol Cymru, and yn ddiweddar perfformiodd gyda’r cyfeilydd adnabyddus Malcolm Martineau yn Hoddinot Hall y BBC. Cyrhaeddodd Dafydd rownd derfynol Cystadleuaeth Cantorion Cymreig 2022, ac mae wedi ennill nifer o wobrau yn Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!