Mae Charlotte wedi treulio’r 15 mlynedd ddiwethaf yn aelod o staff Opera North, yn ogystal â bod yn aelod o’r staff cerddorol gwadd yn Glyndebourne, ENO, Grange Park Opera a Festival Opera, Gŵyl Garsington, Longborough, Opera Holland Park, Cwmni Birmingham Opera, Gŵyl Buxton, Aldeburgh Music a’r Tŷ Opera Brenhinol, lle cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer swydd Meistr Corws Cynorthwyol.
Yn rhyngwladol mae hi wedi gweithio yng Ngŵyl Bregenzer ac i Opera Cenedlaethol Estonia. Mae hi’n chwaraewr allweddellau cyswllt i Syr John Eliot Gardiner a’i gerddorfeydd a’i gôr, ac wedi perfformio yn Neuadd Wigmore, Versailles, y Salle Pleyel, y Pisa Duomo, a’r Concertgebouw, Amsterdam. Mae hi’n ymddangos yn rheolaidd ar In Tune ac Opera on 3 ar Radio 3.
Fel hyfforddwr llais mae hi wedi gweithio’n agos ag artistiaid ifanc yn y National Studio Opera, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Canolbarth Cymru lle mae hi’n curadu nifer o gyngherddau. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin, Ysgol Gerddoriaeth y Guildhall a’r National Opera Studio.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…