Graddiodd y soprano Angharad Kathy Davies (www.angharadkathydavies.co.uk) o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle cafodd gefnogaeth hael Sefydliad Mosawi, Sefydliad Winship, Ymddiriedolaeth Addysg Mario Lanza ac Ymddiriedolaeth Elusennol Hartsheath.
Mae Angharad yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer rhan Susanna yn The Marriage of Figaro gyda Somerset Opera (Gorffennaf 2019) ac yn edrych ymlaen hefyd at berfformio Deuawd Flodau Delibes fel artist gwadd gyda’r RAF Massed Voluntary Bands yn Symphony Hall, Birmingham. Ymysg ei huchafbwyntiau eraill diweddar roedd perfformio yng Nghorws Tosca Puccini yn rhan o ŵyl Abu Dhabi gyda Syr Bryn Terfel.
Bydd Angharad yn perfformio rhan y Bugail yn Tosca gydag Opera Gogledd Cymru ym mis Hydref 2019.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…