Dechreuodd y soprano Alys Mererid Roberts, o Roslan yn y Gogledd, ganu yn y traddodiad gwerin Cymreig mewn Eisteddfodau Cylch a Chenedlaethol ac mae’n un o gyn-fyfyriwr Academi Samling. Alys oedd Ysgolhaig Cerddoriaeth yr Is-ganghellor ym Mhrifysgol Durham. Enillodd MA mewn Astudiaethau Lleisiol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, cyn ymuno ag Opera’r Academi Frenhinol.
Ymrwymiadau diweddar: Cyngerdd Gardd Gregynog, Polly Peachum Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage (Opera Canolbarth Cymru); Flora The Turn of the Screw ffilm 2021 (Opera GlassWorks); 2il Fenyw Margot la Rouge (Opera Holland Park); rhan y teitl The Golden Cockerel (English Touring Opera); Tweedledee Alice’s Adventures in Wonderland, Tiny Tim / Fan A Christmas Carol (Opera Holland Park); Sandman / Dew Fairy Hänsel und Gretel, Yum Yum The Mikado (Pop UpOpera); yr Awen Hedd Wyn (Opera Cenedlaethol Cymru), Euridice Orphée aux Enfers, Barbarina Le Nozze di Figaro, Pannochka May Night, Amore / Damigella L’incoronazione di Poppea (Opera’r Academi Frenhinol).
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…