Her Nadolig 2019
Am un wythnos yn unig rhwng Rhagfyr 3ydd 2019 a Rhagfyr 10fed 2019
Un cyfraniad – dwywaith yr effaith
Eleni, mae Opera Canolbarth Cymru yn cymryd rhan yn Her Nadolig The Big Give, ymgyrch dros y DU i annog pobl i roi i achosion da drwy ddyblu cyfraniadau. Am bob punt yr ydych chi’n ei rhoi, byddwn yn dyblu’r cyfraniad i £2.
Mae gennym ni £3000 yn ein ‘pot’ o arian cyfatebol, diolch i roddwr hael dros ben ac rydym ni’n gobeithio ei ddyblu gyda’ch cymorth chi!
Byddwn yn defnyddio’r arian i gefnogi taith LlwyfannauLlai 2020, sy’n dod ag opera fyw i theatrau bach a neuaddau pentref ym mhob rhan o Gymru a’r Gororau.
Sioe LlwyfannauLlai y flwyddyn nesaf fydd y fwyaf eto – gorchest angerddol gan Puccini yn hwyr yn ei fywyd, Il tabarro – opera wirioneddol fawreddog mewn lleoliadau bychan cartrefol. Mae peth o’r arian sydd ei angen arnom ni ar gael yn barod oherwydd cyllid Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Garfield Weston, ond rydym ni angen eich cymorth i godi’r arian cyfatebol.
Os gallwch chi helpu Opera Canolbarth Cymru i gadw opera’n fyw ac yn lleol, ystyriwch gyfrannu os gwelwch yn dda. Os gallwch chi roi £2 i ni, gallwn ei droi yn £4, £10 yn £20. A bydd eich arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – mae £175 yn talu am feiolinydd ar gyfer un sioe, £15 yn talu am gopi o’r sgôr – mae pob tamaid yn helpu ac rydym ni’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ein cynulleidfa er mwyn helpu i gadw teithiau OCC ar y ffordd.
Felly gwnewch nodyn o ddyddiadau Rhagfyr 3-10 2019 a chadwch lygad am ddiweddariadau ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n hawdd cyfrannu gyda botwm Big Give ar ein gwefan a bydd eich cyfraniadau’n dyblu’r cymorth.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…