‘Mewn sied wartheg lwm’
Cyngerdd Carol Nadoligaidd
gydag Opera Canolbarth Cymru

Mae’n bleser gennym ni gyflwyno ein cyngherddau byw cyntaf ers mis Mawrth, yng nghalon Canolbarth Cymru, ym marchnad wartheg Machynlleth.

Trefnwyd ein cyngherddau, a gynhelir yn rhad ac am ddim ar Ragfyr 12 ac 19, gyda chymorth canwr o Fachynlleth, Robin Lyn Evans, sy’n perfformio ar y ddau ddiwrnod. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw drwy e-bostio admin@midwalesopera.co.uk . Cynhelir tri perfformiad 40 munud ar y ddau ddiwrnod am 11am, 12.30pm a 2pm.

Bydd ein cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol o fewn swigod eu haelwydydd a bydd pob grŵp yn cael corlan ddefaid neu wartheg i sefyll ynddi. Tynnir y drysau oddi ar y corlannau er mwyn lleihau cyswllt ac mae croeso i chi ddod â sedd gyda chi os hoffech chi eistedd.

Yn fwyaf pwysig, bydd pob cyngerdd yn cynnwys pedwar canwr a rhaglen fydd yn amrywio o garolau i glasuron y Nadolig fel Let it Snow a White Christmas. Ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness fydd ar y piano, a byddwn yn gwneud casgliad tuag at waith Opera Canolbarth Cymru.

Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw drwy e-bostio admin@midwalesopera.co.uk neu ffoniwch 07764 171259.

 

Llun gan Burkay Canatar o Pexels.com

Robyn Lyn Evans

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!