Ymunwch â ni ddydd Sul 21 Gorffennaf, 2024, am 5pm i gael eich cludo i jiwbilî orfoleddus o gerddoriaeth ac opera dan gyfarwyddyd Charlotte Forrest, maestro’r alawon a meistr yr ifori!
Bydd y noson hon o gerddoriaeth fyw a chaneuon yn ddathliad gorfoleddus o gerddoriaeth ac opera, yn cynnwys cymeriadau o draddodiad comedïaidd yr Eidal. Boed yn yr awyr agored yng nghanol y gerddi ysblennydd neu dan do yn yr Ystafell Gerdd gysegredig, bydd yr arddangosfa ysblennydd yn syfrdanu!
Sicrhewch eich tocynnau ymlaen llaw, gan fod perygl iddynt ddiflannu’n gyflymach na chwningen mewn het!
Bydd egwyl hir i fwynhau eich picnic, mynd am dro yn y gerddi rhestredig Gradd 1 gogoneddus neu fentro ymhellach i’r coetir hynafol. Bydd y caffi yn y Neuadd ar agor cyn y cyngerdd felly beth am gyrraedd yn gynnar!
Gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i ymuno yn yr hwyl i wneud y noson yn un i’w chofio trwy wisgo fel y cymeriadau lliwgar ac ecsentrig o draddodiad comedïaidd yr Eidal. Mwynhewch y gwisgo ffansi a pheidiwch â bod ofn bod yn fentrus a theatraidd! Y thema yw dathlu ysbryd “Commedia dell’arte” a ewch â’r cymeriadau bywiog yma’n fyw gyda’ch dewis o wisgoedd.
Tocynnau: £19 i oedolion, £5 i blant.
Archebwch yn Swyddfa Docynnau Hafren neu 01686 948100.
Cefnogwch achos Opera Canolbarth Cymru yn y digwyddiad elusennol hwn. Elusen Rhif 1043391
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…