Seiniau’r Haf - Cyngerdd Gardd gydag Opera Canolbarth Cymru

Ymunwch ag Opera Canolbarth Cymru ar gyfer eu Cyngerdd Gardd gwych ar ddydd Sul Gorffennaf 23ain yng ngerddi godidog, rhestredig Gradd Un Neuadd Gregynog ger y Drenewydd.

Mae cyngerdd haf blynyddol OCC yn un o uchafbwyntiau’r tymor, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd a’r pianydd Charlotte Forrest ac yn cynnwys perfformwyr ifanc dawnus o Gymru a thu hwnt. Mae hefyd yn gyfle gwych i glywed am gynlluniau teithio OCC ar gyfer ein tymor 2023/24.

Cynhelir y cyngerdd ar y lawntiau y tu allan i’r tŷ hanesyddol, gan ddechrau am 5pm gydag egwyl picnic! Os bydd hi’n bwrw glaw, rhywbeth rydyn ni’n siŵr nad yw byth yn ei wneud yn Sir Drefaldwyn, cynhelir y cyngerdd yn y Music Room yng Ngregynog. Mae nifer y tocynnau wedi’u cyfyngu gan gapasiti’r Ystafell Gerdd felly archebwch yn fuan!

 

Arhoswch yn Neuadd Gregynog

Beth am aros am y penwythnos, i weld mwy ar harddwch Canolbarth Cymru ac aros yn Neuadd Gregynog? Archebu llety 01686 650224 neu ebost enquiries@gregynog.org

 

Archebu

Archebwch trwy Swyddfa Docynnau Hafren
Ffôniwch 01686 948100
neu Archebwch arlein

  • Neuadd Gregynog ger y Drenewydd
  • Dydd Sul 23 Gorffennaf 5pm
    Egwyl am bicnic
  • £18 oedolion
  • £5 plant

Dod yn fuan

Performers

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!