Ysgolion

Gwaith Opera Canolbarth Cymru mewn Ysgolion

Datgloi Creadigrwydd ac Ysbrydoli Meddyliau Ifanc

Yn Opera Canolbarth Cymru, rydym yn credu yng ngrym trawsnewidiol cerddoriaeth a pherfformio, ac rydym yn ymroi i gyfoethogi bywydau pobl ifanc trwy brofiadau diddorol a rhyngweithiol. Gweler yr hyn rydym yn ei gynnig isod neu cysylltwch i drafod eich syniadau. Gallwch hefyd ddarllen ein blog i ddysgu am ein prosiectau blaenorol mewn ysgolion.


“Waw! Byddai Dosbarth Miss Powell wrth eu bodd yn dechrau bob wythnos gydag Opera Canolbarth Cymru. Cyfansoddodd a chanodd y disgyblion wahanol adroddganeuon, ac fe wnaethom ni hefyd ddysgu aria ‘The Bird Catcher’s Song’ o The Magic Flute gan Mozart. Diolch yn fawr, Ieuan a Ian! Profiad dysgu gwych i bawb!”

dosbarth Miss Powell, Ysgol Dyffryn Radnor

Pam mynd i ysgolion?

Mae ein rhaglen gwaith ysgol wedi’i chynllunio i gyflwyno myfyrwyr Cyfnod Allweddol 1 a 2 i fyd opera mewn ffordd hwyliog. Trwy ddod â’r cyfansoddwyr proffesiynol, arweinyddion a chantorion opera eu hunain i’r ystafell ddosbarth, rydym yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr arbrofi gyda’u creadigrwydd, datblygu eu sgiliau cerddorol, ac ehangu eu gorwelion diwylliannol.

 

Gwerth Opera mewn Addysg

Mae Opera yn ffurf gyfoethog, amlddisgyblaethol ar gelfyddyd, sy’n cynnwys cerddoriaeth, drama, adrodd straeon a’r celfyddydau gweledol. Trwy integreiddio opera yng nghwricwlwm yr ysgol, rydym yn cynnig profiad dysgu cyfannol i fyfyrwyr sy’n ysgogi eu dychymyg, yn meithrin cydweithio, ac yn annog meddwl beirniadol.


A fantastic morning learning about the Opera.
We had so much enjoyment from the session and we were still singing once Ieuan and Ian gone!”

Ysgol Carno

Buddion Allweddol Gwaith OCC i Ysgolion

Ysbrydoli Creadigrwydd

Mae ein sesiynau’n annog myfyrwyr i fynegi eu hunain yn greadigol trwy gerddoriaeth a pherfformio. P’un a ydynt yn cyfansoddi eu melodïau eu hunain, yn archwilio datblygiad cymeriad, neu’n canu gyda’i gilydd fel grŵp, mae myfyrwyr yn cael rhyddhau eu potensial creadigol.

Adeiladu Hyder

Mae cymryd rhan mewn gweithdai opera yn helpu myfyrwyr i fagu hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Trwy ymarferion a pherfformiadau, maent yn dysgu mynegi eu hunain gydag eglurder ac argyhoeddiad – ar y llwyfan ac mewn bywyd bob dydd.

Cyfoethogi Diwylliannol

Mae Opera yn ffurf fywiog ac amrywiol ar gelfyddyd sy’n ymestyn dros ganrifoedd a chyfandiroedd. Trwy gyflwyno amrywiaeth o arddulliau cerddorol, ieithoedd a thraddodiadau diwylliannol i fyfyrwyr, rydym yn ehangu eu gorwelion diwylliannol ac yn meithrin gwerthfawrogiad o amrywiaeth a chynhwysiant.

Gwaith Tîm a Chydweithio

Mae Opera’n gydweithredol yn ei hanfod, rhaid i gerddorion, cantorion, actorion a chriwiau llwyfan weithio gyda’i gilydd tuag at yr un nod. Mae ein gweithdai yn pwysleisio gwaith tîm, cydweithio a pharch at ein gilydd, gan ddysgu gwerth cydweithio wrth gyflawni amcanion cyffredin

Profiad Dysgu Diddorol

Mae ein sesiynau wedi’u cynllunio i fod yn rhyngweithiol, yn ymdrwythol ac, yn anad dim, yn ddifyr. Trwy gemau, adrodd straeon a gweithgareddau ymarferol, rydym yn cynnal diddordeb a brwdfrydedd y myfyrwyr, gan wneud dysgu yn brofiad llawen a boddhaol.

A yw eich ysgol wedi'i lleoli yng Nghanolbarth Cymru?

Yn Opera Canolbarth Cymru, rydym yn ymroddedig i wneud opera’n hygyrch i gynulleidfaoedd o bob oed a chefndir. Trwy ein rhaglen mewn ysgolion, rydym yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o selogion opera a thanio cariad at gerddoriaeth a’r celfyddydau fydd yn para oes. Os ydych wedi’ch lleoli yng Nghanolbarth Cymru ac os hoffech i ni ymweld â’ch ysgol, cysylltwch â ni. Rydym yn cynnig sesiynau yn Gymraeg a Saesneg.

Cysylltwch
Gweithio mewn Ysgolion

Blog

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!