Jonathan Lyness

Arweinydd

Bywgraffiad

Ganed Jonathan yn Llundain, a bu’n darllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste ac yn ddiweddarach astudiodd arwain gyda George Hurst. Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, Cerddorfa Ludlow ac Opera Project a gyd-sefydlodd ym 1993. Mae’n Artist Cyswllt gyda Longborough Festival Opera lle bu’n arwain cylch Janacek yn ddiweddar (Jenufa, Katya Kabanova a The Cunning Little Vixen). Mae wedi bod yn arwain i West Green House Opera bob blwyddyn ers 2000; La Rondine, Ariadne auf Naxos a Candide yn fwyaf diweddar. I Opera Canolbarth Cymru The Magic Flute, Semele, Eugene Onegin, Tosca, Dido and Aeneas, La bohème, The Marriage of Figaro a Hansel a Gretel. Caiff ei amryfal drefniannau cerddorfaol gostyngedig o operâu eu perfformio’n helaeth ledled y byd. Mae ei drefniant o The Bear Walton wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen (ac fe’i ffilmiwyd yn ddiweddar gan Opera Holland Park) ac mae ei drefniant o El Gato con botas Montsalvatge wedi’i gyhoeddi gan Peermusic Classical, NY.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!