Luke Baxter

Bywgraffiad

Graddiodd Luke o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2019. Ers hynny, mae Luke wedi bod yn gweithio’n llawrydd dros Brydain a thu hwnt. Mae’n ddirprwy ar daith The Lion King Disney o amgylch Prydain yn ogystal â thaith Brydeinig a chynhyrchiad y West End o Beauty and the Beast Disney. Yn ogystal â hyn mae Luke yn chwarae’n rheolaidd gyda’i grŵp siambr Quartet 19 a’r ensemble jazz, Freshly Cut Grass gan berfformio a theithio ledled Cymru a Lloegr. Roedd Luke yn ddirprwy ar daith Opera Canolbarth Cymru 2019 o Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage ac mae’n edrych ymlaen at ddod yn ôl eto i berfformio gydag Opera Canolbarth Cymru.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!