Unwaith y flwyddyn anfonwn dîm OCC nôl i’r ysgol, i fod yn gyfrifol am y cwricwlwm am wythnos gyfan a gweithio gyda phlant mewn ysgol gynradd i greu eu hopera newydd sbon eu hunain.
Ar ôl dwy flynedd heb brosiect preswyl mewn ysgol oherwydd cyfyngiadau Covid, roedd yn bleser pur cael cynnal wythnos o ddosbarthiadau ar gyfer 44 disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Penygloddfa y Drenewydd. Yno aethom ati i’w helpu i ysgrifennu sgript a chaneuon a chreu gwisgoedd ar gyfer The Adventures of Frankie the Fox.
Dechreuodd yr wythnos gyda’n Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer yn rhannu ei frasluniau o gartŵn, wedi eu seilio ar The Cunning Little Vixen Janacek, a hanes llwynog sy’n mynd ar goll. Dewisodd y plant themâu anturiaethau’r llwynog – a chreu cymeriadau oedd yn cynnwys coiotes caraoce steil calypso, madfallod lliwgar, llygod mawr cnafaidd a cholomennod crand ar do Rhif 10 Downing Street. Gweithiodd y plant mewn grwpiau i greu caneuon gyda’n Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness, yn canu eu melodïau eu hunain o flaen y piano a gweithio mewn timau i sicrhau bod eu geiriau a’r gymeriadaeth yn cyd-fynd â’r gerddoriaeth.
Benthycwyd ac ailysgrifennwyd caneuon o rai o’n hoff sioeau, felly roedd siwrnai gerddorol ein llwynog yn amrywio o Bicnic y Tedi Bêrs i Rollicking Band of Pirates Gilbert a Sullivan, Candide Bernstein a Lost in the Stars Kurt Weill.
Ar ddiwedd yr wythnos o waith caled, perfformiodd y plant eu sioe ar gyfer disgyblion iau’r ysgol ac yna ar gyfer eu rhieni. Roedd yn fraint cael cynnal y perfformiad cyntaf i rieni yn yr ysgol ers y pandemig. Gwnaeth pawb yn wych, roedd eu hathrawon yn fodelau o oddefgarwch a chefnogaeth ac roeddem ni i gyd yn eithriadol o falch o ymdrechion y disgyblion.
Nid chwarae yw’r cyfan. Rydym ni’n gweithio gyda’r staff i werthuso’r wythnos yn erbyn blaenoriaethau’r cwricwlwm o ran ysgrifennu estynedig, gwaith tîm a sgiliau cyd-drafod a’r cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol. Ond mae hi’n wythnos arbennig ac meddai athrawes y dosbarth: “mae’r plant wedi cael wythnos ffantastig ac wedi cynhyrchu gwaith anhygoel, mae eu hegni wedi bod yn ffantastig ac roedd yr ymarfer a welais i o’r perfformiad yn ardderchog”
Rhywfaint o sylwadau’r disgyblion:-
“Ro’n i wrth fy modd yn dysgu’r holl ganeuon, fy hoff gan a ddysgais oedd yr un am long y môr-ladron ac ro’n i wrth fy modd yn gwneud y sgript ac yn gwneud y ddrama”
“Ro’n i wrth fy modd yn gwneud y sioe ac roedd yn ofnadwy o ddifyr, fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r holl bobl yn yr opera ac fe wnes i fwynhau’r caneuon y gwnaethon ni eu creu”
“Ro’n i wrth fy modd efo popeth, wrth fy modd yn canu, actio, ysgrifennu a phopeth arall”
Eleni, roeddem ni’n gweithio gyda’r soprano a’r athrawes gerdd Maria Jagusz a’r arweinydd addysg a gweithdai, Rebecca Wallbank. Ein Cyfarwyddwr Artistig gyfarwyddodd y sioe a helpu gyda’r sgriptiau, ein Cyfarwyddwr Cerdd gyfansoddodd y caneuon gyda’r plant a chwarae’r piano. Ein Cyfarwyddwr Cerdd aeth ati i weithio ar y gwisgoedd, ac aeth pawb i’w fasged sgrapiau i helpu’r plant i greu hetiau silc o focsys cardbord, adenydd colomen o ddefnydd sgrap a gwisgoedd draenog gyda phegiau a bagiau papur. Buom yn gweithio gyda’r plant hefyd i osgoi defnyddio plastig a defnyddiau nad oedd modd eu hailgylchu.
Cafodd wythnos breswyl eleni ei hariannu gan gyfraniad unigol hael dros ben. Mae pob wythnos breswyl yn costio oddeutu £3500. Pan welwch chi ni’n casglu newid yn ein bwced ar ddiwedd un o’n perfformiadau opera, mae’r arian hwnnw yn cael ei wario ar waith mewn addysg, fel yr wythnos breswyl hon. Gallwch wneud cyfraniad drwy ddilyn y ddolen hon.
Rydym ni fel cwmni’n frwd o blaid addysg gerddoriaeth i bob plentyn. Pob gwanwyn byddwn yn gweithio gyda chantorion a cherddorion i gyflwyno gweithdai opera hanner diwrnod ym Mhowys a Sir Benfro, ac ym mis Mai’r flwyddyn nesaf byddwn mewn ysgol arall ym Mhowys, yn gweithio gyda’r athrawon i drawsnewid eu dosbarthiadau a throi neuadd eu hysgol yn ystafell ymarfer opera. Mae’n waith caled i bawb ond mae’n wirioneddol yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn waith.
Fe roddwn y gair olaf i’r plant:
“Cael bod efo chi i gyd oedd profiad gorau fy mywyd”
Fe wnawn ni dderbyn y ganmoliaeth yn rasol a diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn wythnos breswyl eleni.