Gweithiodd Richard ar ei opera broffesiynol gyntaf yn 1994 yn The Bristol Old Vic. Mae ei repertoire yn cynnwys Monteverdi a Philip Glass mewn gwyliau a theatrau ledled y DU, gan gynnwys Longborough Festival Opera lle mae wedi cyfarwyddo Britten a Janácek. Mae’n gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Artistig Opera Project sy’n gweithio ar y cyd ers amser maith gyda’r Tobacco Factory Theatres, Bryste, sydd wedi ennill sawl gwobr. Un o gynhyrchiadau diweddaraf Richard, sydd yr un mor gartrefol yn y theatr gerdd, yw Candide gan Bernstein i Opera West Green House. Richard yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru. Cynyrchiadau i OCC: The Magic Flute, Eugene Onegin, The Bear, L’heure espagnole, Tosca, Dido & Aeneas, Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage, The Marriage of Figaro, Il tabarro and La bohème.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…