Trist ofnadwy yw gorfod cyhoeddi bod y cynhyrchiad LlwyfannauAgored o Venus and Adonis, a gynlluniwyd ar gyfer y Pasg, wedi ei ohirio tan y gellir ei ail-drefnu yn nes ymlaen oherwydd COVID-19.
Ar ddiwedd wythnos ysbrydoledig o gyfansoddi ac ymarfer gyda chantorion a cherddorion proffesiynol, amatur a myfyrwyr, ymunwch â chwmni LlwyfannauAgored Opera Canolbarth Cymru ar gyfer dau berfformiad cyhoeddus wedi eu llwyfannu’n llawn o gampwaith Blow’s, Venus & Adonis yn Eglwys Sant Andras, Llanandras.
Mae OCC yn gwmni opera teithiol proffesiynol, sy’n llwyfannu dau brif gynhyrchiad ym mhob cwr o Gymru bob blwyddyn yn ogystal â phrosiectau ymgysylltu yng nghymunedau Cymru a’r Gororau.
Bydd ein cynhyrchiad LlwyfannauAgored o Venus & Adonis dros y Pasg yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd OCC Jonathan Lyness a’r Cyfarwyddwr Artistig OCC Richard Studer.
Ym mhob ystyr y rhagredegydd yw Venus & Adonis Blow i’r gorchestwaith ei ddisgybl Purcell. Cyfansoddwyd yn 1683 a sgoriwyd am linynnau a recorders, mae’r opera yn cynnwys cast o giwpidau bach, bugeiliaid, helwyr a llyswyr.
Ym mhob ystyr y rhagredegydd yw Venus & Adonis Blow i’r gorchestwaith ei ddisgybl Purcell. Cyfansoddwyd yn 1683 a sgoriwyd am linynnau a recorders, mae’r opera yn cynnwys cast o giwpidau bach, bugeiliaid, helwyr a llyswyr. Mae’r opera’n adrodd hanes Venus, duwies Cariad, sy’n ceisio denu Adonis. Bugeiliol, erotig, comig a thrasig, mae Venus and Adonis Blow yn ymdriniaeth ar natur cariad a cholled.
Hyd 60 munud
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…