Mae’r Peachums bellach wedi gadael yr adeilad, ond cyn i ni rowlio a chadw ein cefnlen Hogarth hardd, rydym ni’n awyddus i roi un cip yn ôl dros ein hysgwydd ar LlwyfannauLlai 2019.
Cyflwynwyd 15 o berfformiadau dros yr hydref eleni, o Gwmbrân i’r Gelli Gandryll ac o Abermo i Abergwaun, a chafwyd derbyniad cynnes a chroesawgar gan fwy na 1200 o bobl ym mhob cwr o Gymru a’r Gororau.
Gan i’r sioe hon gymryd 12 mlynedd i weithio’i ffordd o lyfr syniadau ein Cyfarwyddwr Artistig i’r llwyfan, mae’n werth i ni dreulio ennyd yn edrych yn ôl ar daith nodedig y flwyddyn hon.
Dyma ddetholiad bychan o ddim ond rhai o’r sylwadau ardderchog a gafwyd.
“Roedd y sioe yn wych. Y canu, yr actio, y gwisgoedd a chynllun y llwyfan – popeth yn ardderchog a’r gerddoriaeth, am bleser cael y fath opera broffesiynol anhygoel yn Llandinam, mwy plîs.”
“Canu hyfryd, actio da ofnadwy a set gofiadwy. Wrth fy modd gyda’r pedwarawd anarferol – wrth fy modd gyda’r basŵn. Mae’n gwneud i mi fod eisiau gweld mwy o opera fyw” – Abermiwl
“Hwyl garw, anweddus, chwerw a melys ar yr un pryd i gyd… clyfar a difyr dros ben.” – Barmouth
“Cyflwyniad gwych i opera, sy’n gelfyddyd mor fynegol. Cefais fy ysbrydoli i ddod i’r perfformiad ar ôl eich ymweliad i ysgol fy wyres (erioed wedi gweld opera o’r blaen)”. – Abermo
“Wrth fy modd gyda’r ffaith ei fod yn teimlo fel ein bod ni’n ôl yn y ddeunawfed ganrif – cyfuniad hyfryd o galedi a hiwmor gyda chanu a chyfeiliant gwych”. – Aberdyfi
“Roedd hon yn noson syfrdanol ym mhob ffordd. Defnyddiodd OCC ei adnoddau prin mewn modd medrus dros ben. Mae proffesiynoldeb a dychymyg y syniad a’r perfformiad i’w edmygu’n fawr”. – Coed Duon
“Roedd yn gwbl hyfryd gweld y fath berfformiad rhyfeddol a chlywed cerddoriaeth hardd yn ein tref fechan wledig.” – Bishop’s Castle
“Difyrrwch trasig a thrist” – Llanandras
Rydym ni wedi teithio drwy lifogydd ac eira (ar y ffordd i Theatr Felinfach) heulwen a chawodydd, a mwynhau adolygiadau gwych “difyrrwch deheuig” The Guardian
“Dim ond gor-ddatgan y mymryn lleiaf fyddai dweud bod creadigaeth Studer/Lyness yn ddi-nam. Mae sgôr Lyness, sy’n seiliedig ar ganeuon yr opera, yn llawenydd llwyr o opera fechan, yn orlawn o fenthyciadau arddulliadol soffistigedig.” Nigel Jarrett, Wales Arts Review
“Un peth y mae’r cwmni hwn yn ei wneud yn arbennig o dda, yw llwyfannu sioe ddifyr. Nid Opera Cenedlaethol Lloegr yw’r cwmni yma. Os ydych chi’n gwmni sy’n mynd ag opera i Abermiwl a Llandinam, rydych chi un ai yn rhoi noson allan anhygoel i’r cyhoedd neu’n mynd yn fflemp.” Richard Bratby the Arts desk
Diolch!
Felly diolch i bawb a ymunodd â ni ar y daith, o’r rhai oedd yn ein croesawu yn y lleoliadau, yn rhoi bys ar y tegell, yn gosod posteri ar ffenestri siopau a pholion lampau ledled y wlad.
Ond mae’r diolch mwyaf yn mynd i dîm Mrs P – cantorion, cerddorion a chriw, tîm gwisgoedd, adeiladwr y set a’r paentiwr golygfeydd!
Mae teithio gyda LlwyfannauLlai yn waith caled, gyda lleoliad gwahanol bob nos a lot fawr o yrru. Roedd gweithio gyda’r tîm yn bleser pur. Felly iechyd da – a gobeithio y cewch chi fwynhau gwydraid o gordial arbennig Mrs Peachum.
“ I’ll give thee a most delicious Glass of a Cordial that I keep for my own drinking.”