Cynhelir cyngerdd haf poblogaidd Cyfeillion Opera Canolbarth Cymru yn Ystafell Gerddoriaeth ysblennydd Neuadd Gregynog ger y Drenewydd ddydd Sul, Gorffennaf 21ain, am 6 o’r gloch yr hwyr.
Bydd y noswaith yn cael ei harwain unwaith eto gan y bianyddes ragorol Charlotte Forrest, ac yn arddangos talent cantorion ifanc o bob cwr o Gymru. Bu’r soprano Angharad Davies yn rhan o gynhyrchiad OCC o Semele Handel; perfformiodd y soprano Rhiannon Ashley a’r baswr Emyr Jones gyda ni yng nghynhyrchiad y gwanwyn o Dido and Aeneas. Mae’r ddau yn fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd.
Ymunwch ag OCC a’n Cyfeillion am noswaith o ddanteithion operatig – a mwynhewch egwyl hir er mwyn gwneud yn fawr o’r leoliad hyfryd y Neuadd. Dewch â phicnic!
Mae’r noswaith yn gyfle gwych hefyd i glywed am y tymor cyffrous sy’n wynebu Opera Canolbarth Cymru, gyda thaith LlwyfannauLlai o Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage, yn seiliedig ar The Beggar’s Opera John Gay, yn agor ym mis Tachwedd a thaith o glasur oesol Mozart The Marriage of Figaro yng ngwanwyn 2020 mewn partneriaeth ag Academi Llais Rhyngwladol Cymru.
Bydd yr arian a godir yn y digwyddiad hwn yn mynd tuag at gefnogi gwaith addysg OCC, sy’n mynd â pherfformwyr i ysgolion ledled Sir Drefaldwyn. Cyrhaeddwyd at 980 o blant mewn 10 ysgol yn gynharach eleni.
Mae’r tocynnau’n costio £16 ac ar gael wrth y drws – arian parod neu siec yn unig.