Richard yw Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru. Ei swydd broffesiynol gyntaf oedd Don Giovanni yn 1994 yn The Bristol Old Vic ac ers hynny mae wedi cynhyrchu dros gant o gynyrchiadau, sy’n amrywio o Monteverdi i Philip Glass mewn gwyliau a theatrau ledled y DU. Mae’n Gyfarwyddwr Cysylltiol gyda Longborough Festival Opera, ac wedi cyfarwyddo gweithiau Britten a Janáček ar gyfer yr ŵyl. Ef yw cyd-sefydlwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Project, sydd wedi bod mewn partneriaeth hir â Theatrau Tobacco Factory, Bryste. Mae Richard yr un mor gyfforddus ym myd y theatr gerdd, ac yn ddiweddar cynhyrchodd Candide Bernstein ar gyfer West Green House Opera. Mae ei gynyrchiadau i Opera Canolbarth Cymru’n cynnwys: The Magic Flute, The Bear Walton, Eugene Onegin a A Spanish Hour Ravel (a gyfieithwyd ganddo hefyd). Rhai o’r cynyrchiadau sydd ar y gweill yw Die Fledermaus ar gyfer West Green House a The Barber of Seville ar gyfer TFTS. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar y cyd â Jonathan Lyness ar opera un act newydd sy’n seiliedig ar The Beggar’s opera John Gay – ‘Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage’, a fydd yn cael ei pherfformio yn yr hydref, 2019 gydag OCC.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…