Edward McCullagh

Y Ffidil (29 Tachwedd – 7 Rhagfyr)

Biography

Astudiodd Edward gyda Lydia Mordkovitch yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol a chyda Shirly Laub yn Ysgol Gerddoriaeth Brwsel. Fel cerddor siambr, mae’n chwarae gyda London Concertante ac Artisti côn Brio, gyda pherfformiadau diweddar yn St Mary’s Perivale a Seillans, Ffrainc fel rhan o ŵyl Musique Cordiale, yn ogystal â thaith i Sbaen y llynedd. Mae Edward wedi chwarae gyda nifer o gerddorfeydd o’r Deyrnas Unedig a thramor gan gynnwys RPO, ECO, Cerddorfa Siambr Llundain, ac mae ar gyfnod prawf gydag Opera Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Fel unawdydd, mae rhai o’i uchafbwyntiau’n cynnwys Sinfonia Concertante Martinu gyda Paul Daniel, Double Violin Concerto Bach, a Violin Concerto Bruch yn St John’s Smith Square.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!