Perfformiadau yn y gorffennol
Yn hydref 2018 gwelir OCC yn ôl ar daith gydag ail gynhyrchiad LlwyfannauLlai y cwmni, ffars ystafell wely un act llawn bywyd gan Ravel, L’heure espagnole. Byddwn yn dychwelyd i rai o’r lleoliadau y gwnaethom eu mwynhau ar daith The Bear Walton yn 2017, yn ogystal â nifer o leoliadau newydd yr ydym yn ysu i’w gweld.
Perfformiwyd L’heure espagnole am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911 ac mae’r opera wedi ei gosod mewn siop glociau yn Toledo, canol Sbaen. Dilynir ffawd Torquemada, y clociwr gweithgar wrth i’w wraig, Concepción, yn ystod un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o gariadon ynfyd. Mae cerddoriaeth Ravel yn llawn alawon bachog, dawnsfeydd habanera bywiog ac elfennau eraill o ganeuon gwerin Sbaeneg a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd.
Mae hon yn opera i bawb – yn llawn cast rhagorol o bum canwr ifanc yn ogystal â phedwar cerddor gwych, yn perfformio cyfieithiad Saesneg newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer a threfniant newydd o sgôr egsotig Ravel a grëwyd gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness.
Yn ail hanner y noswaith, mwynhewch flas eclectig a difyr o Sbaen – efo rhai hen ffefrynnau a phleserau newydd mewn cerddoriaeth a chân.
“a simple, but artful and engagingly funny, Spanish parody”
The Stage – darllenwch y adolygiad llawn
“Mid Wales Opera has scored an indisputable bullseye in this highly approachable and hilarious new staging of L’Heure espagnole”
Wales Arts Review – darllenwch y adolygiad llawn
“It is impossible to fault this production. It dazzles and pleases … I can thoroughly recommend this and urge anyone interested in opera, even those who are merely curious, to [go].”
Get the Chance – darllenwch y adolygiad llawn
Mae’r awr Sbaenaidd bron ar ddod, yr un awr yn yr wythnos pan fydd Concepcion yn croesawu ei chariadon…
Daw’r gyrrwr mulod, Ramiro i mewn i siop Torquemada i gael trwsio ei oriawr. Torra Concepcion ar eu traws gan ddweud y drefn wrth ei gŵr am fod yn hwyr i’w waith a pheidio â gosod cloc yn ei hystafell wely. Dan gwyno eu bod yn rhy drwm i’w symud, mae Torquemada’n gadael ac yn gofyn i Ramiro aros. Gofynna Concepcion i Ramiro gyhyrog gario cloc i’w hystafell ac mae’n gadael gyda’r cloc wrth i’r bardd, Gonzalve gyrraedd. Torrir ar draws y cariadon pan ddaw Ramiro yn ei ôl. Gan esgus camgymeriad, gofynna Concepcion i Ramiro ddod â’r cloc yn ôl a chario’r ail gloc i fyny’r grisiau.
Wrth i Ramiro ddiflannu, mae Concepcion yn cuddio Gonzalve yn y cloc cyntaf cyn i’w hail gariad gyrraedd, y bancwr Don Inigo Gomez. Achubir hi rhag rhodres Inigo pan ddaw Ramiro yn ei ôl; gafaela Ramiro yn y cloc gwreiddiol (y mae Gonzalve y tu mewn iddo erbyn hyn) a’i gario i fyny’r grisiau. Mae Concepcion yn esgusodi ei hun ac yn gadael Inigo gan ddilyn Ramiro. Ag yntau ar ben ei hun, penderfyna Inigo fod yn gariad mwy chwareus a chuddio yn yr ail gloc. Daw Ramiro yn ôl i’r golwg ar ôl cael cyfarwyddyd i edrych ar ôl y siop. Daw Concepcion yn ôl dan cwyno am y cloc yn ei hystafell wely a gofyn i Ramiro ddod ag ef yn ôl i lawr iddi.
Mae’r ddau ar eu pennau eu hunain ac mae Inigo’n dod i’r golwg ac yn datgan ei fod yn caru Concepcion ond torrir ar ei draws unwaith eto gan Ramiro. Gofynna Concepcion i Ramiro fynd â’r ail gloc (y mae Inigo yn ei grombil) i fyny’r grisiau. Mae hi wedyn yn ymdrechu ac yn methu cael gwared â Gonzalve farddol ac yn gadael. Daw Ramiro yn ei ôl a myfyrio y byddai yntau’n hoffi bod yn glociwr gyda Concepcion yn wraig iddo. Daw Concepcion yn ei hôl a gofyn iddo fynd â’r cloc (sy’n cynnwys Inigo) o’i hystafell wely. Mae hi erbyn hyn wedi ei delwi gan gryfder y gyrrwr mulod a, phan ddaw’n ôl, mae hi’n gorchymyn ei fod yn mynd yn ôl i’w hystafell wely (heb gloc!) ac yna’n ei ddilyn…
Mae’r ddau ŵr (Gonzalve ac Inigo) yn sbecian allan o’u clociau wrth i Torquemada ddychwelyd. Ymddiheura am wneud iddynt aros a, gan dybio mai cwsmeriaid ydynt, mae’n perswadio’r ddau siomedig i brynu’r clociau. Daw Concepcion a Ramiro yn ôl i ymuno yn y foeswers: ar drywydd cariad, daw adeg pan fo’r gyrrwr mulod yn cael ei dro…
Torquemada: Peter Van Hulle
Concepción: Catherine Backhouse
Gonzalve: Anthony Flaum
Ramiro: Nicholas Morton
Don Inigo Gomez: Matthew Buswell
Feiolín – Naomi Rump / Edward McCullagh
Telyn – Elfair Grug Dyer
Basŵn – Alexandra Callanan
Piano – Jonathan Lyness
Hyd perfformiad: Awr a phum-ar-ddeugain o funud
Cerddoriaeth: Maurice Ravel
Libreto: Franc-Nohain
Trefniant: Jonathan Lyness
Cyfieithu: Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Alan Ridout: Ferdinand the Bull
Peter Van Hulle (narrator), Naomi Rump (violin)
Manuel de Falla: Nana, No. 5 from Siete Canciones Populares Españolas
Catherine Backhouse (mezzo)
Pablo Sorozábal: No puede ser
Anthony Flaum (tenor)
Georges Bizet: Seguidilla, from Carmen
Catherine Backhouse (mezzo)
Georges Bizet: Toreador Song, from Carmen
Nicholas Morton (baritone), Full Company
Frederico García Lorca: El Cafe de Chinitas, No. 7 from Trece Canciones Españolas Antiguas
Full Company
Agustín Lara: Granada
Anthony Flaum (tenor), Peter Van Hulle (tenor)
Cefnogir gan Gronfa Loteri CCC, Ymddiriedolaeth Garfield Weston, Hanfod Cymru, Elusen Gwendoline & Margaret Davies a Nidec Control Techniques.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…