Pagliacci Ruggero Leoncavallo: deinameg, G uchel a bwrw tin dros ben…

Ym mis Mai 2020 soniais yn fy Mlog OCC fy mod i wedi dechrau ar y gwaith o greu trefniant newydd o gampwaith cyffrous Janacek, The Cunning Little Vixen. Roeddwn i wedi agor fy ngliniadur, lansio ‘Sibelius’ a dewis ‘newydd ‘. Yna soniais fod un cynhwysyn pwysig ar goll o sgôr gyfan Vixen: arwyddion cywair! Wnaeth Janacek ddim trafferthu efo nhw, ac mae hynny’n iawn. “Mae Janacek yn athrylith, dyna’r ffordd mae’n gweithio”, meddyliais. Mae’r darn yn sicr yn gweithio, ac felly ymlaen â ni heb arwyddion cywair.

Wel, ym mis Ionawr eleni, agorais gaead fy ngliniadur, agorais ‘Sibelius’, dewis ‘newydd’ a, gyda sgôr lawn o Pagliacci wrth fy mhenelin, dechreuais weithio ar drefniant siambr gostyngedig ar gyfer pum chwaraewr. Rwy’n falch o roi gwybod bod popeth am y sgôr i’w weld mewn trefn, gydag arwyddion cywair yn bresennol yn ôl yr arfer. Dros ychydig ddyddiau, fodd bynnag, dechreuais sylweddoli mai anwadal braidd oedd y parch roedd y cyfansoddwr Leoncavallo yn ei roi i’r ddwy elfen arall a ystyrir gan fyfyrwyr cerddoriaeth fel rhai eithaf sylfaenol: brawddegau a deinameg!

Ruggero Leoncavallo

Ganed Leoncavallo yn Napoli ym 1857, a dechreuodd ei addysg gerddorol yn y Conservatoire lleol, yn astudio’r piano a chyfansoddi. Yn ddiweddarach astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol Bologna am flwyddyn, gan adael heb ennill gradd. Tua’r un pryd ysgrifennodd y gerddoriaeth a’r libreto ar gyfer ei opera gyntaf, Chatterton (ni chafodd ei pherfformio tan yn llawer diweddarach). Tua blwyddyn yn ddiweddarach aeth i Cairo i fod yn gerddor preifat i’r teulu oedd yn rheoli, ond bu’n rhaid iddo ffoi yn 1882 yn ystod gwrthryfel yr Aifft, gan gyrraedd Marseilles yn gyntaf cyn teithio i Baris lle bu’n byw bywyd Bohemaidd, yn rhoi gwersi piano a chwarae mewn caffis a bwytai. Ar hap ac antur mewn bywyd yn ogystal â’i gerddoriaeth!?

Yn 1889 daeth i gysylltiad am amser byr gyda chreadigaeth lwyddiannus gyntaf Puccini, Manon Lescaut. Ar yr adeg hon, nid oedd Leoncavallo wedi penderfynu a ddylai dilyn gyrfa fel cyfansoddwr ynteu fel dramodydd. Roedd cyhoeddwr Puccini, Ricordi, yn ei weld fel yr olaf o’r rhain a chomisiynodd libreto ganddo, ar gyfer Manon Lescaut, a wrthodwyd gan Puccini wedi hynny (mae’r libreto olaf yn waith tua phum libretydd gwahanol gan gynnwys Leoncavallo).

Roedd Leoncavallo a Puccini tua’r un oed a gallent fod wedi bod yn ffrindiau ond daethant yn wrthwynebwyr. Ym 1892 dechreuodd Leoncavallo weithio ar fersiwn o Scènes de la vie de Bohème Henri Murger. Ar yr un pryd, dechreuodd Puccini hefyd weithio ar La Bohème. Cafwyd dadlau ffyrnig, gyda Leoncavallo bellach yn gweithio i Dŷ Cyhoeddi Sonzogno mewn cystadleuaeth â Puccini oedd yn dal gyda Ricordi. Perfformiwyd opera Puccini am y tro cyntaf yn 1896 ac un Leoncavallo yn 1897. Roedd y ddwy opera’n llwyddiannus, ond opera Puccini a ddaliodd brawf amser. Mewn llythyr i Camille Bellaigue (un o fywgraffwyr cynnar Verdi), cyfeiriodd Puccini at opera gynharach Leoncavallo Pagliacci fel ‘that vile spectacle’. Dim llawer o Eidaleg rhyngddynt felly!

Roedd cyfansoddiad Pagliacci wedi ei ddylanwadu gan opera fer arall a ymddangosodd yn 1890, Cavalleria Rusticana, gan Pietro Mascagni. Roedd Cavalleria yn dynodi dechrau’r genre operatig a elwir yn ‘verismo’ ac roedd yn hynod lwyddiannus. Buan y daeth Leoncavallo i ddeall poblogrwydd y genre, oedd yn ei hanfod yn cyfuno realaeth gymdeithasol gydag adloniant da. Roedd yn ysu i efelychu llwyddiant Mascagni ac aeth â’i brosiect arfaethedig Pagliacci i’r cyhoeddwr Sonzogno. Sonzogno oedd wedi cyhoeddi Cavalleria Rusticana ar ôl iddo gael ei wrthod gan Ricordi, camgymeriad masnachol enfawr yn y diwedd. Nawr byddai gan Sonzogno Cavalleria Rusticana YN OGYSTAL â Pagliacci a byddai’n gwneud ffortiwn o’r ddau!

Engrafiad o fis Mai 1892 o Olygfeydd o’r cynhyrchiad gwreiddiol yn Teatro Dal Verme ym Milan

Un peth sy’n fy synnu, serch hynny, yw nad ofynnodd Sonzogno i Leoncavallo am fwy o ddeinameg, elfen sy’n ysbeidiol ar y gorau. Weithiau mae’r cyfansoddwr yn ychwanegu cyfarwyddiadau defnyddiol, fel ‘ruvido’ (garw), ‘affannoso’ (yn fyr o wynt), ‘carezzevole’ (serchog) a, fy ffefryn penodol, ‘come un fremito’ (fel ias). Mae Puccini hefyd yn defnyddio ansoddeiriau o’r fath ond mae ei sgoriau yn llawn deinameg; agorwch dudalen o Pagliacci ar hap ac unrhyw sgôr gan Puccini ac mae’r gwahaniaeth yn glir, gyda deinameg Puccini yn cael ei reoli yn llawer mwy manwl. Yn yr un modd, gyda’r geirio, mae Leoncavallo yn hapus i roi llinellau ysgubol hir i’r llinynnau a ddilynir ar brydiau gan ddim byd o gwbl, gan ddangos teimlad cyffredinol y gerddoriaeth heb fanylder y marciau bwa penodol y byddai Puccini yn eu cynnwys fel arfer. Nid yw hyn yn tynnu un dim oddi wrth athrylith y sgôr, ond mae’n anarferol ac mae angen cryn dipyn o waith i roi trefn arno…

Detholiad o’r Intermezzo sy’n gwahanu Act 1 a 2

Cynorthwywyd llwyddiant yr opera newydd gan y bariton Ffrengig rhyngwladol Victor Maurel a gafodd ei gastio i ran Tonio. Yn wir, ychwanegwyd prolog Pagliacci yn arbennig ar gyfer Maurel, oedd yn teimlo nad oedd ei rôl yn ddigon sylweddol. Tonio, yn y prolog, sy’n sefydlu’r amwysedd rhwng realiti a’r llwyfan, gan gyhoeddi bwriad yr opera a rhagweld, trwy hynny, y chwalfa sydd ar ddod i’r rhith theatraidd. Mae’r prolog, hyd yn oed os mai ôl-ystyriaeth ydoedd, yn ychwanegiad ysbrydoledig i’r opera, ac mae’r rhan fwyaf o’r baritonau sy’n chwarae’r rhan yn mwynhau yn ofnadwy, gan ychwanegu eu G uchel eu hunain i’r frawddeg derfynol a gafodd sêl bendith Leoncavallo ond a adawyd allan o’r sgôr ganddo yn fwriadol.

Clawr yr argraffiad cyntaf, cyhoeddwyd 1892

Mae Cavalleria Rusticana a Pagliacci yn bâr naturiol, a gwelais y rhaglen ddwbl hon yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn 2022. Cefais fy nharo gan y ffordd mae drama ymchwyddol Cavalleria wedi’i gosod yn erbyn cefndir crefyddol o gerddoriaeth gorawl a cherddorfaol hardd, tra bod drama Pagliacci yn gweld trawsnewidiad Canio o dawelwch i drais wedi’i osod yn erbyn y cymylu parhaus rhwng straeon a realiti. Efallai bod y bariton sy’n canu rôl Tonio wedi ychwanegu G yn y prolog, ond aeth y tenor Roberto Alagna enwog, a gafodd ei alw i mewn ar fyr rybudd i gymryd lle Canio pan oedd ddim yn dda, i’r lefel nesaf. Nid cyflwyno’r rôl yn ardderchog yn unig a wnaeth y canwr 59 mlwydd oed, ond aeth ati i fwrw tin dros ben yn ganol y llwyfan hefyd! Rwyf wedi bod yn hoff o Cavalleria Rusticana erioed, yn anad dim oherwydd mai dyna’r enw a roddodd fy mrawd i’m car cyntaf (hen Vauxhall ymhell heibio ei orau). Ond, ar ôl gweld y ddau waith yn cael eu paru yn y Tŷ Opera Brenhinol, rwy’n credu bod Pagliacci yn fwy o ‘hwyl’!

Jonathan Lyness

 

Related Posts

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!