Mae’n rhaid i mi fod yn onest: Mae fy mherthynas i gyda Berlioz wedi bod yn un ansicr. Ac rwy’n gwybod, ymhlith cerddorion a’r rhai sy’n caru cerddoriaeth, nad fi yw’r unig un. Mae apêl eang iawn i rai o’i weithiau, fel cylch o ganeuon Les nuits d’été a’r enwog Symphonie fantastique. Ac rydw i wrth fy modd erioed â’r olygfa garu o Roméo et Juliette ers imi ei hastudio fel myfyriwr. Ar wahân i hynny, pan fyddaf yn holi o gwmpas (ac rydw i wedi holi o gwmpas cryn dipyn ers cynllunio Béatrice et Bénédict gydag Opera Canolbarth Cymru), mae’r ymateb ychydig yn amheus, os nad yn ddryslyd. Mae’n ymddangos i mi nad yw pobl yn gwybod sut i’w gymryd!
Wrth wrando ar y Symphonie fantastique, mae bron yn anghredadwy bod y darn wedi ei berfformio am y tro cyntaf ddim ond pedair blynedd ar ôl nawfed symffoni Beethoven. Ond nid oedd Berlioz (1803–1869) yn perthyn i draddodiad pwysicaf yr Almaen na’r Eidal. Roedd yn perthyn i’r traddodiad Ffrengig, ac mae llawer o’r traddodiad hwnnw ar goll heddiw. Clywn gerddoriaeth cyfansoddwyr Ffrengig cynharach fel Lully a Rameau, a Gluck y mae eu cymwysterau Ewropeaidd yn cynnwys digon o gerddoriaeth sydd wedi’i hysgrifennu ar gyfer Ffrainc i gyfiawnhau ei mabwysiadu gan y Ffrancod.
Fodd bynnag, nid oes yr un o’r rhain yn ein paratoi ar gyfer Berlioz. Mae cerddoriaeth ei ragflaenwyr uniongyrchol – Spontini a Cherubini (Eidaleg o ran genedigaeth ond yn gweithio ac yn byw yn Ffrainc), Étienne Méhul, François-Adrien Boieldieu, Nicolas Dalayrac ac ati – bron yn anhysbys. Felly mae’n ymddangos bod cerddoriaeth Berlioz wedi dod o’r gwyll – ef yw’r cyntaf o’r cyfansoddwyr Ffrengig i’r rhan fwyaf ohonom. Yn ogystal â hynny, roedd yn un o arbrofwyr ac arloeswyr mawr cerddoriaeth. Nid yw’n syndod, felly, os cymharir Berlioz â chyfansoddwyr rhamantus eraill cynnar mwy cyfarwydd – Schumann, Mendelssohn neu Chopin – y gall deimlo ar adegau fod cerddoriaeth Berlioz wedi ei chreu mewn labordy.
Ond nid yw ei gyfansoddiad terfynol, Beatrice and Benedict yn ymddangos yn arbrofol mewn unrhyw ffordd. I’r gwrthwyneb, yr argraff gyntaf yw bod y sgôr yn syml ac yn gynnil, yn disgleirio gyda swyn, ffraethineb, cariad a gorfoledd. Mae ei sglein a chyflawniad bob manylyn yn datgan fod yma gyfansoddwr sydd â phrofiad oes. Disgrifiodd Berlioz ei hun y gwaith fel ‘a caprice written with the point of a needle’, ac mae troadau a throellau harmonig dihafal y cyfansoddwr yn ymestyn drwy’r darn. Felly hefyd ei egni di-anadl, sy’n cyferbynnu â’i hoffter o ofod ac ehangder; os bu erioed gyfansoddwr oedd yn ysgrifennu cerddoriaeth a oedd un ai’n gyflym neu’n araf, Berlioz yw hwnnw.
Dechreuodd Opera Canolbarth Cymru feddwl am dymor Shakespeare ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddem yn awyddus i lwyfannu un o operâu gwych Verdi/Shakespeare fel cynhyrchiad PrifLwyfannau’r gwanwyn. Roedd hyn yn ein gadael mewn penbleth ynghylch taith LlwyfannauLlai. Wrth feddwl am Verdi a’i gariad at Shakespeare, fe wnaeth i mi feddwl am Berlioz a’i gariad yntau at Shakespeare. Dyma ddau gyfansoddwr Shakespearaidd mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, os nad y mwyaf erioed. Yn rhyfeddol, yn union fel y trodd Verdi at ysgrifennu comedi Shakespearaidd ar ddiwedd ei fywyd, felly hefyd Berlioz. Ac yn union fel y cadarnhaodd Falstaff bod Verdi ym mlodau ei ddyddiau, roedd Beatrice and Benedict yn cadarnhau bod ysbrydoliaeth Berlioz ar ei anterth.
Yn 1860 roedd Berlioz wedi bod yn meddwl am Much Ado About Nothing am fwy na 25 mlynedd. Yn y flwyddyn honno, ysgrifennodd libreto ei hun, gan ganolbwyntio ar y prif gymeriadau, Beatrice a Benedict i greu opera un act opéra-comique, genre o opera Ffrengig gyda chaneuon wedi’u gwahanu gan ddeialog. Yr enghraifft enwocaf o’r genre yw Carmen Bizet a gyfansoddwyd tua deng mlynedd yn ddiweddarach. Ysgrifennodd y rhan fwyaf o’r gerddoriaeth yn yr hydref hwnnw, gan ddechrau gyda naw cân. Cynyddodd hyn i ddeuddeg, a rhannodd ei opera yn ddwy act, er bod Act 2 ychydig yn fyr. Ac felly cynyddodd Act 2 gyda thriawd a chorws. Fe fewnosododd gân ddawns offerynnol ryfeddol, wedi ei benthyca o ddeunydd blaenorol – ‘sicilienne‘ – a glywir yn gynnar yn yr opera ac eto hanner ffordd drwyddi. Fe’i hysgrifennwyd gan Berlioz yn ei arddegau ryw 40 mlynedd yn gynharach (bryd hynny roedd yn waith bach rhamantus o’r enw Le dépit de la bergère).
Mae sgôr yr opera wedi ei ysgrifennu ar gyfer cerddorfa o faint canolig, er bod un corws yn gofyn am ddwy delyn, ychwanegiad drud ar gyfer un gân yn unig. Yn hyn o beth roedd Berlioz wedi arfer – mae Les nuits d’été yn gofyn am delyn am ddim ond 5 bar! Ar gyfer cân yfed mae’n ychwanegu gitâr, tambwrin a Verres frappés sur la table – ‘gwydrau shots’ i chi a fi! Mae’r rhan fwyaf o’r darnau yn heriol iawn ac mae gwasgariad y gerddoriaeth yn anarferol. Mae rhannau’r fiola a’r trwmpedau yn allweddol, ac mae ei gariad at rinweddau’r sielo yn amlwg drwy’r gwaith.
Ymysg yr offerynnau gwynt, mae’r clarinét yn arbennig o amlwg, o alawon uchel i ddarn hynod ryfeddol ar ddiwedd cân ganolog enwog yr opera Duo – Nocturne. Yn wir, mae diwedd y ddeuawd harddaf hon yn cynnwys cerddoriaeth nad wyf wedi dod ar ei thraws erioed o’r blaen. Yn gyntaf, mae deuawd araf, hir, droellog rhwng pâr o ffliwtiau, ac yna pâr o glarinetau, heb ddim ond un llinell fiola pizzicato yn gyfeiliant. Ac yna, i orffen, mae Berlioz yn rhoi inni feiolinau uchel, etheraidd ‘tremolo’, bas dwbl pizzicato isel, a dernyn o alaw clarinet ostinato rhyfeddol sy’n dal i fynd a mynd, ar ran isaf un yr offeryn.
Ar ôl hynny, heb saib, mae Berlioz yn ein codi i’r sicilienne a grybwyllwyd uchod, dan arweiniad y clarinét sydd, am saith deg o fariau, heb le i anadlu (wrth imi ysgrifennu, rwy’n ansicr a yw ein clarinetydd yn ymwybodol o hyn eto!). Rydw i wedi cael llawer iawn o hwyl yn trefnu’r gerddoriaeth ar gyfer ein band bach o gerddorion teithiol – ffidil, sielo, clarinet a phiano. Rwyf newydd ei orffen ac alla i ddim aros i’n cynulleidfaoedd weld a chlywed yr opera fach hyfryd, egnïol, fynegiannol ac, ar brydiau, egsotig hon. Nid oes telynau yn y cynhyrchiad hwn, ac nid oes gitâr chwaith (er y gallai’r feiolinydd wneud i chi amau hynny). Ond mae gennym ni dambwrin, ac mae gennym ni wydrau shots nad oes amheuaeth y gellid eu defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl y sioe, yn ôl yr angen.
Jonathan Lyness