Rydym yn ein gwahodd i ymuno â nhw mewn byd Tylwyth Teg llawn hud a lledrith ar gyfer tymor newyd a lansiwyd yn Neuadd Gregynog ddydd Sul.
Meddai Lydia Basset, y Cyfarwyddwr Gweithredol, wrth lansio eu tymor Straeon Tylwyth Teg yn Gala flynyddol Cyfeillion OCC:
“Mae llawer o bobl yn cael trafferthion ar hyn o bryd, ac mae rhywbeth hudolus am adael i rywun ganu stori i chi. Rydyn ni am i’r straeon Tylwyth Teg hudolus hyn eich trosglwyddo i fyd arall am y noson, byd yn llawn gwrachod ac ellyll, tywysoges a chath ddireidus yn ei hesgidiau uchel. Maen nhw’n straeon cyfarwydd gyda thro operatig ac rydyn ni wrth ein boddau yn cael eu rhannu â chynulleidfaoedd ledled Cymru a’r Gororau.”
Bydd trefniant siambr newydd Jonathan Lyness o Pws Esgid Uchel (El Gato con Botas), a threfniant cerddorfaol gostyngedig o Hansel a Gretel, yn golygu bod OCC yn cael mynd ag opera fyw broffesiynol i leoliadau bach a chanolig yng nghalon cymunedau ledled Cymru a’r Gororau. Bydd y ddau gynhyrchiad yn cael eu canu yn Saesneg.
Meddai Jonathan Lyness:
“Ar gyfer tymor Tylwyth Teg OCC rydym ni wedi dewis dwy opera anhygoel – campwaith Humperdinck, Hansel a Gretel ac opera fer egnïol wych Montsalvatge, El Gato con Botas. Pwy sydd heb glywed am Pws Esgid Uchel? Ond pwy all gofio’r stori? Dyma gyfle i gynulleidfaoedd o bob oed ddod yn ôl at hanes y gath ddireidus hon ac ymhyfrydu yng ngherddoriaeth hardd y cyfansoddwr Catalanaidd hwn nad yw’n cael ei chlywed yn aml.
Nid oes angen fawr o gyflwyniad ar Hansel a Gretel. Y caneuon gwerin hawdd eu canu wedi’u plethu i sgôr gyfoethog, ramantus, ynghyd â’r wrach fwyaf brawychus i osod troed ar y llwyfan operatig erioed, sy’n gwneud yr opera hon yn un heb ei hail.
Dwy noson lawen o gerddoriaeth wych ac adloniant theatrig, i’n holl gynulleidfaoedd – oedolion, plant, neu’r ddau!”
O’r nodyn cyntaf, mae cerddoriaeth Montsalvatge yn egnïol, yn soniarus ac yn llawn rhythmau bachog, alawon toreithiog ac effeithiau cerddorol cathaidd. Cath sy’n bod yn giwpid, ellyll araf a diweddglo hapus iawn sy’n golygu bod hon yn ffordd berffaith o gyflwyno opera i bobl ifanc. Bydd y 5 canwr a’r 5 cerddor yn dod ynghyd eto yn yr ail hanner a fydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf cabaret, yn byrlymu â cherddoriaeth boblogaidd.
Mae clasur Humperdinck o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Hansel a Gretel yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm. Caiff dau blentyn eu diarddel i’r goedwig hudolus gan eu rhieni llwglyd, rhwystredig lle maen nhw’n crwydro i grafangau gwrach ddrwg sy’n benderfynol o’u troi’n fara sinsir. Bydd partneriaid cerddorfaol OCC, Ensemble Cymru, yn ymuno â chast o gantorion ifanc proffesiynol, a chorws o blant lleol sy’n cymryd rhan ym mhob lleoliad.
Mae taith LlwyfannauLlai OCC o Pws Esgid Uchel yn dechrau yn Neuadd Gregynog (tocynnau o Theatr Hafren, Y Drenewydd) ddydd Gwener 14 Hydref 2022. Yna bydd yn teithio i Gastell yr Esgob, Abertawe, Cricieth, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug, Llanandras, Abergwaun, Ystrad Aeron, Llwydlo, Y Fenni a’r Bermo cyn y perfformiad olaf yn Aberdyfi ddydd Sadwrn 12 Tachwedd.
Mae eu taith Prif Lwyfan o Hansel a Gretel yn cychwyn yn Theatr Hafren yn y Drenewydd ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2023. Yna bydd yn teithio i’r Wyddgrug, Bangor, Aberhonddu, Aberystwyth, Aberdaugleddau, Henffordd a Llanelli cyn y perfformiad olaf yng Nghasnewydd ddydd Iau 23 Mawrth.
Bydd y perfformiadau canlynol yn cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Julie Doyle: Pws Esgid Uchel ar 19 Hydref 2022 (Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe); Hansel a Gretel ar 23 Mawrth 2023 (Glan yr Afon, Casnewydd).