Il tabarro – Taith LlwyfannauLlai Hydref 2021
La bohème –Taith PrifLwyfan Gwanwyn 2022
Gyda mawr ryddhad, a mawr lawenydd, bydd OCC yn ôl ar daith yn yr hydref ac mae ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer yn ysu i gychwyn arni. Yn ei flog diweddaraf, cawn gipolwg ar sut y byddwn yn dod ag ysbryd Paris i Gymru a’r Gororau yn y perfformiad cyntaf erioed o gyfieithiad a threfniant cerddorfaol newydd sbon a chryno o gampwaith Puccini, Il tabarro
Mae bod yn fach yn fanteisiol ac mae gallu Opera Canolbarth Cymru i fod yn hyblyg wedi helpu’r cwmni i ddod allan o sefyllfa anodd yn gymharol ddianaf!
Bu’n flwyddyn anodd i bawb, ond gyda’r rheolau cysylltiedig â pherfformio yn newid yn gyson, mae OCC wedi gallu addasu’n gyflym, boed hynny drwy’r rhaglen gymunedol, Milltir Sgwâr, ein prosiectau digidol neu’n cyngherddau naid – os oedd cyfle i berfformio’n codi, roeddem ni’n llamu am y cynnig ac rydym ni wedi cyrraedd y cam terfynol yn siwrnai’r cyfnod clo drwy ddychwelyd i deithio.
Mae tymor Puccini ym Mharis 2021/2022 yn dathlu un o’r cyfansoddwyr mwyaf poblogaidd gyda dwy o’i operâu gorau. Cychwynnwn ar ein tymor newydd gydag Il tabarro (The Cloak) fel canolbwynt Taith LlwyfannauLlai yr hydref. Mae’r cyfle i berfformio’n fyw, i barhau â’r bywyd anniben ar daith, y realiti o fyw allan o gês eto hyd yn oed, yn rhywbeth gwefreiddiol!
Ar ôl i’n cynhyrchiad OCC o The Marriage of Figaro gael ei ganslo ar fyr rybudd, dechreuodd y cyfnod cyfyngedig gyda pharatoi cyfieithiad Saesneg newydd o Il tabarro, sioe y gobeithiwyd ei llwyfannu yn hydref 2020. Doedd gen i syniad a fyddai hi fyth yn gweld golau dydd mewn gwirionedd. Roedd y ddefod ddyddiol ddiflas o fynd i’m stiwdio a’m swyddfa gyda’r cŵn i weithio ar brosiect nad oedd sicrwydd y byddai’n digwydd fyth yn dinistrio’r enaid. Ond sgôr dyfeisgar ac emosiynol Puccini ar gyfer Il tabarro yn y pen draw oedd y feddyginiaeth gathartig berffaith i yrfa ar stop.
Wrth imi encilio i fyd oedd yn ddim mwy nag ychydig lathenni sgwâr o’r Gororau, roedd cerddoriaeth, fel erioed, yn tanio’r dychymyg ac yn gadel i mi grwydro drwy hanes a daearyddiaeth i fyd oedd yn bell o’m stiwdio anniben, sy’n llawn hen fodelau o setiau a geriach artist wrth ei waith. O gyffiniau fy nesg gallwn ddal i rodio glannau’r Seine yn hamddenol wrth i sgôr Puccini gonsurio delweddau hanesyddol a modern – hylciau rhydlyd llongau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ochr yn ochr â’r cychod camlas modern â tho gwydr a welais yn ystod fy ymweliad diweddaraf i ddinas fwyaf rhamantaidd Ewrop.
Nid yw’n syndod, fel cynllunydd, mai ymateb gweledol yw fy ymateb cyntaf i waith fel arfer wrth imi archwilio’r posibiliadau. Er mai gweithio gyda’r testun roeddwn i’n bennaf wrth baratoi’r cyfieithiad newydd, doedd cynllun posib y set a’r llwyfaniad byth yn bell o fy meddwl.
Cynhyrchiad newydd OCC yw’r tro cyntaf i mi gyfarwyddo a chynllunio’r opera hon a gan ein bod ni bellach wedi cychwyn ar y gwaith cynhyrchu, rwy’n ymhyfrydu yn harddwch a chymhlethdod yr opera. Mae Il tabarro, yn yr un modd â La bohème, yn opera llawn dyfnder emosiynol a lliw cerddorol, y ddwy yn cyfleu calon a charreg y ddinas.
Mae lleoliadau Puccini yn rhoi bywyd i chwerthin, cariad a cholled ddyddiol y dosbarth gweithiol, y rhai hynny a osododd sylfaen Paris fel ei hadnabyddwn ni hi heddiw gyda’u masnach a’u nerth. Yn y ddwy opera yn y tymor sydd ar ddod, mae Puccini yn llwyddo’n rhagorol i droi’r weithred fwyaf syml yn foment ddramatig. Yn La bohème, cannwyll heb ei thanio sy’n goleuo’r stori garu operatig fawreddog, yn Il tabarro, daw bywyd i ben ar daniad matsien. Mae’r manylion bychan yn y sgôr a’r testun yn datgelu dyfnder naratif a chymhlethdod seicolegol sy’n fy syfrdanu ar droad pob tudalen a seiniad pob nodyn. Os nad ydych chi wedi cael profiad o’r operâu yma, rwy’n argymell y ddwy yn galonnog fel maeth i’r enaid wrth inni ddod i gychwyn ar ein “normal newydd”.