Croeso i isfyd Llundain yn y ddeunawfed ganrif. I ddyfynu Obi Wan Kenobi yn Star Wars wrth sôn am faes rocedi Mos Eisley, “Chewch chi fyth y fath ferw cythreulig o wehilion ac anfadrwydd. Rhaid inni fod yn ofalus.”
Mae byd The Beggar’s Opera John Gay, a Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage, yn bell o fyd boneddigaidd opera ffasiynol y cyfnod. Mae Tŷ Peachum yn gartref i griw o ladron, lladron pen ffordd a phuteiniaid a dyna â’i gwnaeth yn llwyddiant diamau.
Pan agorodd yn 1728, roedd The Beggar’s Opera yn llwyddiant ar unwaith, a golygodd y cyfuniad o alawon poblogaidd a’r darlun dychanol o’r isfyd troseddol ei bod yn un o’r dramâu mwyaf poblogaidd a berfformiwyd yn y ddeunawfed ganrif. Daeth drama a sgandal yn sgil y cynyrchiadau cynnar hefyd – un o sêr y sioe wreiddiol oedd Lavinio Fenton, y Polly Peachum gyntaf ac yn ddiweddarach aeth ymlaen i fod yn Dduges Bolton!
Yn ôl y Tate:
“Ar 29 Ionawr 1728 perfformiodd Lavinia Felton am y tro cyntaf fel Polly Peachum, merch y cyfreithiwr yn The Beggar’s Opera (1728), rhan a sefydlodd ei henwogrwydd.
“Erbyn heddiw, yr ymddangosiad uchaf ei glod a wnaed gan Lavinia yw yn narlun Hogarth o olygfa’r carchar yn Act III The Beggar’s Opera isod. Yn y paentiad, mae’n pledio â’i thad am fywyd y lleidr pen ffordd, Macheath.
“Un o brif edmygwyr ei pherfformiad oedd Charles Paulet, 3ydd Dug Bolton (o Golden Grove, Sir Gaerfyrddin ac Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin), sydd i’w weld ar ochr dde’r llwyfan ym mhaentiad Hogarth, a’r ddau yn ciledrych ar ei gilydd. Ymddengys fod Bolton wedi syrthio mewn cariad â hi ar yr olwg gyntaf. Daeth yn feistres iddo a chawsant dri mab. Yn y pen draw, pan fu farw ei wraig yn 1751, priododd y Dug a Lavinia.”
I gael mwy o fanylion, dilynwch y ddolen: www.tate.org.uk/art/artworks/hogarth-lavinia-fenton-duchess-of-bolton-n01161
Y Cast o Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage
Wrth gychwyn ar ein taith, cawsom gyfle i sgwrsio gyda’r cast i holi eu barn am eu rhannau fel criw o gnafon!
Mrs Peachum
Yn gyntaf, Mrs Peachum, a chwaraeir gan yr hyfryd Carolyn Dobbin, a welwyd ddiwethaf gydag Opera Canolbarth Cymru yn llowcio fodca ac ysmicio ei hamrannau fel Madame Popova yn The Bear, Walton.
Meddai Carolyn:
“Rydw i wrth fy modd gyda’r syniad o’r fenyw hon ac mae nodweddion y cymeriad gwreiddiol yn dylanwadu arna i… hi yw’r bos, ac mae hi’n ddraig o ddynes! Mae hi’n gymaint o gymeriad go iawn ac er bod Mrs Peachum yn eithaf annymunol, mae hi hefyd yn eithaf digrif… ac rydw i wrth fy modd gyda cherddoriaeth Jon. Mae wedi sicrhau bod y caneuon yn fympwyol, yn fachog, yn ddiddorol ac yn ddifyr dros ben! ”
Richard Bratby, The Arts Desk am The Bear:
“Mae gan Carolyn Dobbin, fel Popova, wyneb anhygoel o hyblyg, yn dangos teimlad urddasol o flaen y darlun o’i gŵr marw, yna tywallt fodca arall iddi ei hun gyda gwên slei – gweddw feddw, gyda mezzo heulog, hyblyg a allai gyfleu balchder haearnaidd a thynerwch cynyddol. ”
Beggar/Filch
Cawsom gyfle hefyd am sgwrs gyda Johnny Herford, our Beggar/Filch, ein cardotyn / Filch er mwyn clywed sut mae’n cymryd at fywyd y pigwr pocedi. Meddai Johnny::
“Rwy’n mwynhau nodweddion anarferol opera fel hon – defnyddio testun ac alawon a ysgrifennwyd dri chan mlynedd yn ôl er mwyn creu rhywbeth hollol newydd. Wedi dweud hynny, nid yw ymylon siarp y gwreiddiol wedi dylu dros y blynyddoedd!
Mae’n ymddangos bod fy nghymeriad, Filch y pigwr pocedi, yn mwynhau ei fywyd – ond gan fod ei feistr yn ceisio canfod a oes mwy o elw i’w gael o grogi yn lle cyflogi gweithwyr, all Filch ddim bod yn rhy hunanfodlon…”
“Mae Johnny Herford yn chwarae’r arwr di-hap gyda chyfaredd ddryslyd sy’n hoffus dros ben.”
Telegraph, Rupert Christiansen
“Josef K ardderchog Johnny Herford yn ymddatod yn raddol o fod yn llywydd talog y banc i fod yn gnaf sydd wedi dychryn am ei fywyd. Mae cast MTW yn hyrddio’r cyfan allan yn frwd.”
The Times, Richard Morrison
Polly Peachum
Polly is played by Welsh soprano Alys Mererid Roberts who has performed with Mid Wales Opera most recently in MWO’s Tosca tour as the Shepherd Boy/Chapel Boy. We met up with Alys at the dress rehearsal today for a quick chat:
“Polly is very romantic and naïve, but she has quite a feisty side to her and some real fire in her belly. She’s got married without her mother’s consent and it causes no end of trouble. The relationship she has with her mother is difficult to say the least and Filch regularly gets stuck between the two of them.
“I’m really excited that this is the first time this version of The Beggar’s Opera has ever been performed and it’s amazing how Richard has managed to condense various characters and still keep the story but add his own nuances.”
Profiad o deithio gyda LlwyfannauLlai
Mae teithiau LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru’n chwalu’r patrwm arferol o deithio gydag opera draddodiadol drwy ymweld â theatrau bach a neuaddau cymunedol lle mae’r gynulleidfa’n cael bod yn agos iawn at y perfformiad.
Meddau Johnny:
“Mae’n sefyllfa arbennig iawn cael perfformio fel bod y gynulleidfa’n gweld mynegiant yr wynebau ar y llwyfan, ac rydym ninnau’n gweld ymateb y gynulleidfa hefyd. Ac mae rhywbeth yn ddiamser ynglŷn â sioe symudol – rydych chi’n teimlo cysylltiad â thraddodiad hen iawn.”
Roedd Carolyn wrth ei bodd gyda’r profiad o deithio gyda The Bear ar daith gyntaf LlwyfannauLlai ac all hi ddim aros i fynd yn ôl ar daith. Eglurodd:
“Roeddwn i wrth fy modd yn teithio o gwmpas Cymru, mae’n hynod o hardd ac mae’r golygfeydd yn fy llorio bob amser…. Mae’n ymddangos bod fy sat nav yn awyddus imi fynd y ffordd hiraf i leoliadau bob amser, i lawr lonydd cul a dros ben mynyddoedd… ond rydw i’n eithaf balch o hynny!
“Un o’r pethau gorau ynglŷn â theithio ar y raddfa yma yw cyfarfod y bobl leol. Hwn yw profiad cyntaf rhai ohonynt o opera felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am ymateb od gan y gynulleidfa weithiau…. Rwy’n cofio mewn un lleoliad bod rhywun wedi agor caniau cwrw ac yn heclo drwy’r perfformiad!! Roedd yn ofnadwy o ddigrif!! Mae’n dda cael dod o hyd i siopau bach annibynnol ac aros yn y pentrefi tlws!”
Mae Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage wedi bod ar y gweill ers amser maith, gan i’n Cyfarwyddwr Artistic, Richard Studer, gyfarwyddo The Beggar’s Opera am y tro cyntaf yn 2005 i West Green Opera – ond mae’n mynd i fod yn wledd – ac os mai chwerthin yw’r feddyginiaeth orau, efallai mai Mrs Peachum fydd yn rhoi iachâd i bawb rhag anfodlonrwydd gaeaf 2019.
Mae Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage – yn agor yn Neuadd Bentref Llandinam (mewn partneriaeth â Hafren, Y Drenewydd) ddydd Iau y 7fed o Dachwedd!